Tudalen:Cyfrol Goffa Richard Bennett.djvu/64

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bod yn proffwydo yn ôl cysondeb y ffydd y bore yma. Hanner gwirionedd sydd gennych, neu lai na hynny yn fy marn i." Hwyrach gyfaill, ond fe addefwch chwithau ei fod yr hanner hawsaf i'w anghofio. Ac os rhoddodd ein tadau braidd ormod o bwyslais arno, nid wyf yn siwr na roddwn ni rhy fach o bwys arno yn y dyddiau hyn.

Rhag i chwi feddwl mai gwagedd i gyd sydd gennyf, ar ôl i chwi fynd gartref, darllenwch esboniad y Principal Edwards ar y 14eg adnod o'r bennod olaf o'r llythyr at yr Hebreaid, a chwi a gewch eiriau fel hyn, "Perygl Cristnogion o ymgartrefu ar y ddaear." Chwi a anghofiwch bopeth a ddywedaf i, mi wn, ond peidiwch ag anghofio geiriau y Principal, a setlwch yn eich. meddyliau eich hunain beth yw eu hystyr.

Dywed gwyddonwyr wrthym fod yn y greadigaeth yma ddwy ddeddf yn gweithio yn groes i'w gilydd,—y naill yn tynnu ati, a'r llall yn gwthio draw, ac mai trwy gydweithrediad y ddwy y cedwir cytbwysedd y cyfanfyd. Byddaf fi yn meddwl weithiau fod dwy ddeddf gyffelyb yn y byd moesol hefyd. Mi a wn yn gystal a chwithau fod lle cyfreithlon mewn bywyd i ofal am yr amgylchiadau, lle i ddarbod dros yr eiddo, serch ac anwyldeb teuluaidd. Ond od â'n bywyd i gyd i redeg yn y groove yna, daw trychineb ynghynt neu hwyrach. Gyda'r attachment dylai fod dipyn o detachment hefyd—tipyn o ryw allu i ymryddhau cyn y llwyddir i gadw bywyd ar ei wastad.

Sonia Paul yn rhywle am brynu megis heb feddu, am fod yr amser yn fyr, ac am arfer y byd heb ei gamarfer, neu yn gywirach heb ei lawn arfer, without fully using, heb wthio pethau i'r pwynt eithaf. Yr ystyr, 'rwy'n coelio, yw marchogaeth y byd yn lled rydd, heb wthio ein traed at y sodlau i'r warthol, fel pe baem i fod yn y cyfrwy am byth. Teithiwr oedd Paul, a barnai fod cwlwm dolen yn ddigon o gysylltiad rhyngddo a'r byd. Teithwyr ydym ninnau hefyd.

"Tir rhyw ŵr goludog a gnydiodd yn dda," eithaf praw ei fod yn ffarmwr penigamp. Gwir oedd y gair y pryd hwnnw, fod yr hen ddaear yn lled onest; fel y rhoddwn ni iddi, y rhydd hithau yn ôl. Diau yr ystyrid y gŵr goludog yn model farmer ei ardal. Nid yn unig coleddai'r ddaear, ond gofalai am y cnwd ar ôl ei gael. Darparai ddigon o adeiladau i gadw popeth yn ddiddos. Pe buasai Undebau Amaethwyr, a Chynghorau Dosbarth a Sirol, yn bod y pryd hwnnw, cawsai le amlwg arnynt oll. Ond beth oedd y teitl a roddodd ysbrydoliaeth iddo? O ynfyd!' Thou fool! Paham y siaradai yr addfwyn Iesu mor galed a brwnt am ddyn gweithgar, cynnil, gofalus? Wel, nid oblegid y pethau a wnaeth, ond oblegid y pethau ni wnaeth. Un o'r ddwy ddeddf oedd mewn gweithrediad yn ei hanes. Darparodd yn unig ar