Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/107

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y TRO cyntaf y gwelais ef oedd yn Eisteddfod Landudno, 1896.

Yn un o gyfarfodydd y bore, eisteddwn wrth fwrdd y wasg, yn disgwyl i'r cystadleuaethau ddechrau. Nid oedd y beirdd eto wedi cyrraedd o'u "Gorsedd," ac yr oedd rhai mân bethau eisoes ar droed. Yn fy ymyl eisteddai gŵr ieuanc dieithr i mi; gwallt du iawn, syth ac yn hytrach yn llaes a thrwchus, weithiau'n tueddu i ddisgyn dros ei dalcen ar un tu a chuddio ei lygad, ac yntau'n ei droi ymaith yn rhyw chwyrn â'i law; un llygad fel pe buasai'n gibddall, y llall yn anghyffredin o fyw a gloyw; gwawr felen braidd ar ei groen; gwên yn chwarae ar ei wefusau, gan ddangos dannedd cryfion braf. Sylwais ar y pethau hyn wrth iddo ef siarad ag un o swyddogion y llwyfan a ddaethai heibio.

Yn y man, dyma orymdaith y beirdd i mewn. Wrth basio'r lle yr oeddym ni yn eistedd, troes yr "Archdderwydd" (Hwfa Môn), edrychodd yn dra digllon ar y gŵr ieuanc, estynnodd ei law a rhol o bapur ynddi tuag ato, gan fwmian rhyw beth yn dra chynhyrfus, fel yr ymddangosai i mi.