Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/113

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Digwyddai fy mod eisoes wedi addo bod mewn lle arall drannoeth. Yr addewid honno a gedwais, a chefais felly ysgoi peth a fuasai'n dipyn o brawf ar duedd ry barod i weled ochr ddigrif pethau. Y diwrnod wedyn, euthum i Fangor, lle gwelais goroni fy hen gyfaill Silyn Roberts, ac y cyfarfum, ymhlith eraill, â John Morris Jones.

O'r dydd hwnnw hyd y diwedd, buom yn gyfeillion, ac ni chefais i ond y caredigrwydd mwyaf ar ei law. Gwahoddodd fi i Lanfair i dreulio diwrnod gydag ef, a hyfryd fyth yw'r cof am y dydd hwnnw o Fedi. Nid wyf yn meddwl i ni sôn am ffrwgwd y papur newydd, a'r argraff a gefais y diwrnod hwnnw oedd fy mod wedi taro ar Gymro a barchai iaith ei dadau fel y perchid Groeg a Lladin gan ysgolheigion clasurol, ac nad oedd un llafur na thrafferth yn ormod ganddo i osgoi'r peth lleiaf a allai fod yn fefl arni. Cofiwn am fy hen athro Lladin pan oeddwn hogyn, na fynnai lythyren o'i lle, a'r meistr ar ieithoedd diweddar, a ddysgodd i mi fy Nghymraeg, ar dafod a thrwy ysgrifen, un y byddai priod-ddull anghymreig yn peri dolur iddo. Sonied a sonio am " ddegymu mintys ac anis," fel pe bai hynny'n