Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/116

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cyfarwydd Cymreig awenus, megis o'r oesau canol, a geiriau yn llun ac yn lliw ac yn ddilyniad digwyddiadau iddo. Hen uchelwr rhadlon, megis, ydoedd Puleston, a wrandawsai ar gannoedd o gyfarwyddon ac eraill yn adrodd eu straeon, a geiriau'n bersonoliaethau iddo, yn gymeriadau y gwyddai ef drwy reddf a deall sut yr ymglyment â'i gilydd, a pha effaith ar y naill a gai bod yn ymyl y llall. Celfydd oedd John Morris-Jones a welai eiriau'n ymgyfuno wrth reidrwydd rheol a pharhad traddodiad.

Bydd rhai'n dywedyd yn aml mai'r unig beth sy'n iawn mewn iaith yw'r hyn sydd gyffredin, hynny yw, mai'r hyn y sydd yw'r hyn sy hefyd yn iawn, a digrif yw sylwi yn aml ar ymdrechion ieithyddion—nid yng Nghymru yn unig—i ddangos mewn ymarferiad eu bod yn credu'r peth a ddysgant fel athrawiaeth. Ond dilyn yr athrawiaeth hon i'r pen draw, nid rhaid i lenor namyn ysgrifennu ar ei gyfer yn union fel y bydd "y dyn yn y stryd" yn llefaru, a dyna bopeth yn iawn. Pa beth bynnag yw'r "gwir" ieithyddol—nid llawer haws cael hyd iddo na rhyw wir arall—ni all fod amau nad yw holl ieithoedd llenyddol y byd yn ddadl barhaus yn erbyn yr athrawiaeth