camgymeriadau. Gofynnais a gawn i ddodi'r dail mewn trefn a'm cadwai rhag mynd ar gyfeiliorn. Cael cennad yn rhwydd. Gofyn am ddail gwynion, siswrn a phast. Torri'r dail lle'r oedd chwanegiadau i fod a phastio'r darnau fel y byddent yn dilyn yn eu lleoedd, a rhifnodi'r cwbl. Nid anghofiaf mo'i edmygedd. o'r ddyfais fach seml honno. Pan elwais ar fy ffordd adref o'r cyfarfod, yr oedd yr annwyd yn llawer gwell, a rhywfaint o flas ar fywyd eto.
Hoffaf lle o bobman ganddo oedd Rhydychen. Bu yno'n fyfyriwr o Goleg yr Iesu; aeth yno drachefn pan roddes ei Goleg iddo ddofod i'w gynorthwyo i ddal ati i chwilio hanes Edward Lhuyd, ac yno, yn fuan iawn ar ôl dychwelyd yno am y trydydd tro, y bu farw. Credaf mai prin y ceid undyn yn ei oes a wyddai gymaint ag ef am y ddinas a'i hanes a'i henwogion. Treuliais beth amser yn ei gwmni yno yn haf 1928. Pan adawsai Gymru ychydig amser cyn hynny, yr oedd ei gyfeillion yn bryderus yn ei gylch am nad oedd nemor lun ar ei iechyd ers tro, er na fynnai ef gydnabod hynny. Ond wedi mynd i Rydychen ymsioncodd eilwaith—nis gwelswn ef cystal ers blynyddoedd. Yr oedd yr hin yn hyfryd, ac ni