Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/141

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

NID oeddwn ond rhyw bump ar hugain oed pan gyfarfüm gyntaf â Daniel Rees. Yr oedd yntau agos i ugain mlynedd yn hŷn. I'r rhan fwyaf o lawer o ddynion pump ar hugain, bydd dynion na bo iddynt ond rhyw ddeng mlynedd o flaen arnynt hwy eisoes wedi cyrraedd rhyw oedran na ellir synio'n bendant amdano na gwybod megis pa fodd i'w gymharu o ran posibilrwydd a'r peth y gellir bod wedi ei wybod a'i brofi oddi mewn i'r pump ar hugain. Gellir tybio y bydd rhai dynion deugain ac uchod yn aml yn yr un ansicrwydd ynghylch y peth a fo posibl yn bump ar hugain, er y gallai dyn feddwl bod llai o esgus dros yr ansicrwydd hwnnw.

Gwn bellach fod yn bosibl i gorun dyn foeli cyn ei fyned ef ei hun yn hen, ac nad wrth rifedi blynyddoedd y gellir yn fanwl ddywedyd pa bryd y bydd dyn yn peidio â bod yn ieuanc. Ni pheidiodd Daniel Rees tra bu fyw. Hyd yn oed o ran corff, nid oedd arno, y tro olaf y gwelais ef, odid ddim o ôl y blynyddoedd, o'i gymharu â'r hyn oedd y tro cyntaf. Yr oedd fy mhen yn wynnach na'i ben ef, ond wrth ymddiddan ag ef,