Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/155

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

YR hyn a roes i mi fy syniad cyntaf am ffilosoffyddion oedd yr hanesion bychain a geid mewn rhai llyfrau am Roegiaid a Rhufeiniaid o'r dosbarth hwnnw gynt. Meddyliwn amdanynt fel dynion ag iddynt farfau go laes a dillad heb fod o'r deunydd na'r dull gorau fu erioed. Credwn mai dynion oeddynt na byddent yn rhoi pris yn y byd ar gyfoeth nac anrhydedd, na byddai waeth ganddynt pa beth a ddoi i'w rhan, a'u bod yn arfer dywedyd na fedrai neb ddwyn dim o'u heiddo oddi arnynt, gwnaed a fynnai. Darllenswn dystiolaeth gredadwy y byddent weithiau yn dywedyd pethau plaen iawn, hyd yn oed wrth wŷr mawrion y byddai eraill yn eu hofni ac o leiaf yn cymryd arnynt eu perchi dros fesur. Deuthum i ddeall y byddai pobl weithiau yn eu canmol, a thro arall yn rhoi gwenwyn iddynt i'w yfed. Dyellais hefyd mai ymhen hir a hwyr ar ôl eu claddu—neu beidio â chymryd cymaint â hynny o drafferth—y canmolid mwyaf arnynt. Yn ddiweddarach, sylweddolais fod o leiaf ddau ddosbarth ohonynt hwythau, er eu galw wrth yr un enw, ac mai â thôn y llais yn unig y gellid gwahaniaethu rhwng y ddau. Wrth sôn am un dosbarth,