byddai alw am y sothach Saesneg sydd yn eu ffenestri chwaith, oni bai ei fod yno i'w greu.
Un o'r dynion caredicaf a wisgodd esgid erioed oedd Dic Tryfan. Yr oedd ganddo ddychymyg hynod fyw—mor fyw, yn wir, fel yr ymrithiai ei ddychmygion fel ffeithiau iddo yn aml; ond ni bu gywirach na diniweitiach dyn erioed. Chwarddai am ben gwendidau dynion—a bu yn y cyfle i weled cryn lawer ohonynt—ond maddeuai'n rhwydd a llwyr.
Yr oedd yn hoff iawn o gerddoriaeth, ond ni sylwais fod ganddo nemor duedd at gelfyddyd o fath yn y byd ond y gelfyddyd lenyddol. Syml dros ben oedd ei arferion. Carai fywyd gwlad—ei bennaf difyrrwch oedd mynd i Aberdaron i fwrw gwyliau, a breuddwydiodd lawer am gael cartref mewn lle felly, a llonydd i sgrifennu wrth ei bwys. Gwelai brydferthwch Natur, er na ddisgrifiai mono cystal o lawer ag y disgrifiai ystum corff dyn neu osgo meddwl. Caffai fawr ddifyrrwch wrth sylwi ar ymddygiadau a dywediadau hogiau bach, a charai adar ac anifeiliaid. Cof gennyf hen gi a fyddai yng Nghaernarfon gynt. Pan glywai hwnnw fiwsig o fath yn y byd, eisteddai yn y fan, codai ei drwyn i'r awyr a dechreuai udo. Wrth