YR oedd Syr Henry Jones wedi heneiddio ac wedi dioddef llawer pan ddeuthum i gyntaf i gydnabyddiaeth ag ef.
Yr wyf yn ei gofio flynyddoedd yn ôl yn darlithio yng Nghaernarfon, ar lyfr Balfour, Seiliau Cred. Y pryd hwnnw, yr oedd yn ei rwysg, corff gosgeiddig, wyneb glân, wedi ei eillio onid y trawswch, cnwd da o wallt; ysgogiadau cyflym, byw; lleferydd rhwydd, Cymraeg ardderchog. Dro arall, clywais ef yn areithio yng Nghaernarfon ar Ddydd Gŵyl Lafur. Darlith ar economeg wladol, mewn Cymraeg grymus, dealladwy i bawb.
Ar ddiwedd y ddarlith ar lyfr Balfour, gwelais ddigwyddiad diddorol, y gellir bellach ei grybwyll. Daethai'r darlithiwr i lawr oddi ar y llwyfan, ac yr oedd gwŷr mawr y dref yn tyrru o'i gwmpas i ysgwyd llaw ag ef. Tra'r oedd hynny ar dro, sylwais ar ddyn a safai yn f'ymyl ychydig o'r neilltu. Edrychai hwnnw yn o anesmwyth, os nad anfoddog, a gwelais o'r diwedd ei fod yn ceisio cael sylw Syr Henry. Bu wrthi am rai munudau yn ceisio dal golwg y darlithiwr, ond yr oedd