Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Er na welais i erioed dystiolaeth mor weithredol o'i angerdd, mynych y gwelais ef mewn eiliad yn meistroli ton o angerdd—dyna un o'r pethau mwyaf rhyfeddol ynddo.

Clywais ef lawer tro'n pregethu, a phobl yn dywedyd ei fod mewn hwyl, pryd y gwyddwn innau ei fod yn ymatal bob cam o'r ffordd, ac mai yn yr ymatal hwnnw yr oedd godidowgrwydd. ei rym a'i ddylanwad—y maint oedd y tu cefn i'r cwbl! Tra bwyf a thra cofiwyf Ddafydd Wiliam, mi fyddaf, er truaned fwyf a maint y methwyf a bod fel y mynnwn, eto'n gwybod maint y godidowgrwydd a all fod mewn rhai dynion, ac fel yr enillant y feistrolaeth honno arnynt hwy eu hunain, a thrwy hynny ar bopeth arall, sy'n eu gosod o'r neilltu fel arglwyddi ar eu tynged eu hunain, fel capteiniaid eu heneidiau eu hunain.

1927.