yn eu plith eu hunain. Nid wyf yn honni gallu cofio ei eiriau fel y llefarodd hwy bellach, ond dyma gynnwys rhan o'r ymddiddan hwnnw:
"Lle bydd brain yn cartrefu, cewch lawer o bleser wrth eu gwylio. Adar call iawn ydynt, a phe bai dynion yn deall eu harferion yn iawn, nid wyf yn amau dim na ddysgem lawer oddi wrthynt. Y mae'n wir, mi gredaf, fod ganddynt gyfraith yn perthyn i'r haid, a'u bod yn profi ac yn cosbi'r brain a'i torro. Pan fo'r llys yn profi un fo wedi troseddu, fe welwch y carcharor yn y canol, a'r lleill o gwmpas ar y coed, a dyna lle byddant yn crawcian am hydion, yn union fel pe baent yn tystiolaethu ac yn dadlu ac yn rhoi barn. Gwelais hynny droeon fy hun, ac unwaith gwelais y carcharor yn cael ei droi ymaith o blith yr haid. Yr oedd yno sŵn ofnadwy, a phob brân fucheddol a'i phigiad ar y frân ddrwg, nes aeth hi o'r golwg.
"Yr wyf yn cofio sôn am y peth wrth hen goedwr ar ystâd y Faenol, a dywedodd yntau fod yn ddigon gwir bod y brain yn cosbi troseddau yn eu herbyn. Gwelodd brawf felly ei hun, meddai, a'r diwedd fu i'r frân a dorrodd y gyfraith gael ei chrogi rhwng dau frigyn, a phob un o'r lleill yn ei phigo yn ei thro, ac yno y bu ei chorff nes pydru! Wni ddim