Y mae llawer o dymhorau gwahanol iawn i'w gilydd, wedi bod o bryd i bryd ar yr awen Gymreig. Weithiau, dysgleiriai dan dywyniad haul llwyddiant yn ei hymdrechion, bryd arall, byddai fel "seren dan gwmwl," heb ond ychydig o'i llewyrch i'w ganfod yn tremio drwy y lleui, yn aneglur ar y dywyllnos ddu. Ond nid ymddengys y byddai byth yn llwfr- hau dan yr amgylchiadau mwyaf anffafriol, canys cyfodai rhywun neu gilydd o'i meibion, gyda gwr- oldeb adnewyddol, fel cadarn wedi gwin, ag a roddai, megia bywyd o feirw yn ei holl ymadferthoedd, yn mysg y genedl. Felly yr ydoedd ar gyfodliad Dafydd ab Gwilym, lolo Goch, ac eraill. Mewn maes gwa- hanol, y bu "Canwyll y Cymry," yn llewyrchu yo brydferth drwy y caddug niwl, ac awen Williams Pant y celyn, ar ei ol; ond yn nosparth, cyhoeddus y beirdd cenedlaethol, Goronwy Owain a ragorodd yn ei oes, ac a greodd gyfnod newydd yn hanes awen- ydd a llenoriaeth y dywysogaeth, ag sydd yn parhau hyd y dydd hwn. Yn y flwyddyn 1860, cafwyd argraphiad cyflawnach na dim a wclsid o'r blaen yn y "Gronoviana," o'i waith barddonol, a'i lythyrau, allan o argraphwasg Llanrwst. Mae ei farddoniaeth, gan mwyaf, wedi ei chyfansoddi yn ol yr ben ddull Cymreig, yn y Mesurau Cynghaneddol, neu y Mesur- au Caetbion, fel y gelwir hwy gan y Pryddestwyr. Y mae ei waith, gan mwyaf, mewn Awdlau, Cyw- yddau, ac Englynion. Y mae yr Awdlan, agos oll, ar y Pedwar Mesur ar Hugaiu, a dim ond un penill, yn fynych ar bob mesur. Yr oedd llenyddiaeth Gymreig mewn cyflwr tra isel, pan y dechreuodd Goronwy ysgrifenu. Nid oedd ond ychydig yo alluog i ddarllen yr iaith yn briodol, ac nid oedd y Llyfrau yn y Gymraeg ond ychydig o nifer, ac o gymeriad pur gyffredin. Nid oedd cyflawnder o Fiblau ar y pryd, a'r ychydig o ysgolion oedd mewn ambell ardal, yn ddim amgen na hyfforddiant mewn darllen, ac ychydig o ysgrifenu, a rhifyddu. Ni chafwyd misolyn, na newyddiadur, am dymor maith wedi hyny. Pan y cynnygiodd Lewis Morris godi argraphwasg, pan y ceisiodd godi cyfnodolyn, dan yr enw Tlysau yr Hen Oesoedd," y mae ef ei hun yn cwyno, nad allai ddwyn dim ychwaneg na dau rifyn allan, o ddiffyg cefnogaeth, ac y mae yn ci aucrcbind at ei gyd-genedl, yn awgrymu fod an wybodaeth yn teyrnasu dros y wlad. Yr oedd ei frodyr Rhisiard, a William, yn ddynion o wybodaeth gyffredinol, ac o wasanaeth mawr i'r wlad; ac yr oedd leuan Brydydd Hir, William Wyn, a Richards o Yatrad Meyrig, ac eraill, yn ddynion dysgedig a galluog, llawn o eiddigedd teilwng dros dderchafiad y Cymry, ond ychydig iawn o gefnogaeth a gaweant hwythau yn eu hymdrechion gwladgarol i wneud daioni i'w brodyr yn ol y cnawd; ond am eu cyd- oesydd Goronwy Owen, ni allasai ef, mewn modd yn y byd, gynal ci deulu, a chadw corph ae enaid gyda eu gilydd, heb symud o'r naill guradaeth fechan i'r Ilall, er cael rhyw offeiriadaeth i gael tamaid o fara, nes o'r diwedd, orfod ymfado dros foroedd y gorllewin, ar hen lwybr Madog ab Owain Gwynedd, am gyn- haliaeth bywyd. Ond eto, er hyn i gyd, gadawodd Goronwy ar ei ol, gymunrodd i'w genedl, yn ei farddoniaeth drylen, a werthfawrogir gan y genedl, "Tra mor, tra Brython." Y mae ei waith o nod- wedd uwchlaw y cyffredin; ei iaith yn goethach a mwy dysgedig, ei chwaeth yn bur a dillyn, a'i gyfansoddiadau yn mhell nwch cyrhaeddiadau y werin i'w hiawn brisio. Pan y cyhoeddwyd yr ar "1
graphiad cyntaf o'r "Diddanwch Teulaaidd," cafodd dderbyniad cyffredinol dros yr holl dywysogaeth, yr hyn a arddengys yn ddigon eglur, fod cysgodau y nos yn dechreu cilio, awydd a gallu i ddarllen yn cynnydda, ac enwau Goronwy, Llewelyn Ddu. a'r Bardd Coch, yn dechreu dyfod i gael eu mawrhau; a Huw Jones, o Jangwm, y Cyhoeddwr, yn llon- gyfarch ei gydwladwyr, ar gyflwyniad y fraint newydd hon i'w llaw, yn ei englynion dysyml:- 82 Ag addysg o fywyddau,-Mon Ynys Mewn anwyl blethiadau; Yn y wlad hon, fwynlon fau, Hynod ydoedd hen Dadau, &c." Ni feddai y genedl y fath drysorfa o farddoniaeth deilwng, yn y Mesurau Cynghaneddol, o'r elfeu Gymreig, o flaen amser Goronwy, ac y maent yn aros eto i ddysgleirio yn mysg y lluaws a gaed ar cu bol, gan cu bod hyd yn hyn yn mhlith detholiad penaf yr holl gasgliadau amrywiaethol. Am deil- yngdod cynnyrchion barddonol Goronwy Owen, y mac yn afreidiol cynyg un gair o ganmoliaeth iddynt y mae can mlynedd bellach o ddarllen- lad arnynt, yn ddigon o dystiolaeth dros eu teil- yngdod, yn enwedig wrth feddwl eu bod yn fwy cymeradwy heddyw, nag y buont erioed. Detholodd destynau teilwng ar y cyfan i gyfansoddi arnynt; nid oes ond ychydig iawn o'r gwagsaw wedi cael lle ar ei fwrdd; yr oedd y sylweddol yn fwy yn ei olwg na'r chwarena, ac yr oedd yn fwy am feithrin y difrifol na'r cellweirus. Y mae ei iaith yn goeth a destlus, yn eglur, heb fod yn gyffredin; yn swynol, heb fod yn aflednais; ac yn nerthol, beb fod yn chwyddedig. Y mae argraph o wreiddioldeb meddwl i'w ganfod yn mhob dernyn o'i waith; ac y mae urddunedd ac arucheledd syniadau yn rhedeg drwy ei holl gyfansoddiadau. O'r haner cant o ddarnau sydd yn y casgliad, ni theimla y darllenydd siomed. igaeth yn nefnyddiad cymaint ag un o honynt; y mae tynerwch a nerth; teimlad a dylanwad, yn elfen naturiol drwyddynt oll. Ithaid fod ei alluoedd dychymygiadol yn gryfion, a'i fedr i'w gwisgo yn yr ieithwedd fwyaf dengar uwchlaw y cyffredin, fel y mae prydferthwch tarawiadol ei linellau yn boddhau pawb Gwyddir mai yn y Mesurau Cynghaneddol yr ysgrifenai, ac ni ystyriai efe bob mesurau eraill, ond pethau benthyciol, ac anghydweddol ag anian- awd y Gymraeg; eto, y mae eu plethiad mor natur- fol ac esmwyth, ag iaith rydd. Nid oedd ef yn fawr- ygydd gorwresog o honynt all, canys dynoethir yn ddiarbed rai o honynt fel cyfryngau anmbriodol i geisio gwisgo meddyliau dyrchaſedig ynddynt. Nid oedd efe yn cyfrif dim yn farddoniaeth, heb gyng- hanedd, yn yr iaith Gymraeg, ac nid oedd yn fodd- lawn i alw Coll Gwynfa" yn farddoniaeth yn yr faith Saesoneg. Dyma a ddywed am dano;-*Coll Gwynfa" Milton, sydd lyfr a ddarllennis gyda phleser, ie, gyda y syndod a'r hyfrydwch mwyaf. Gelwch ef yn waith mawreddog, addurnol, a nertbol, neu os ydych yn dewis, yn waith nefolaidd, cewch fi yn barod i gyduno & phob peth a ddywedwch i'w ganmawl, os peidiwch a'i alw yn farddoniaeth; neu os gwnewch hyny, rhaid i chwi adael i minnau gan. iatau i'r "Bardd Cwag" gymeryd ei eisteddle ymysg y beirdd. Fel ag y mae Barddoniaeth Sacsonig yn rhy benrydd, felly y mae yr eiddom ni yn rhy gaeth, a therfynol; nid yn y cynganeddion, canys heb. ddynt hwy ni byddai yn farddoniaeth o gwbl, ond