tywysog Dyfed. Pa beth bynag ellir ddywedyd am waedoliaeth Seithenyn, anhawdd fuasai dychymygu person mwy anaddas nag ef i lenwi y swydd hon, oblegyd gosodir ef allan yn y Trioedd fel un o dri “Charnfeddwon Ynys Prydain.” Nid ydym yn gwybod am well testyn i'r areithydd dirwestol na bywyd Seithenyn ab Seithyn Seidi.
Dywed y Trioedd mewn man arall y ceid yn y Cantref
“un ddinasdref ar bymtheg yn oreuon ar holl drefydd
a dinasoedd Cymru, a gadu yn amgen Gaerlleon
ar Wysg.” “Hafan Gwyddno, yn ngogledd Cymru,”
oedd “un o dair prif borthladdoedd ynys Prydain;” a
chan ei bod yn sefyll yn y rhan hono o'r môr rhwng Sarn
Badrig a gwlad Feirion, nid rhyfedd ei hystyried mor
rhagorol. Ysgrifenwr darfelyddol a roddasant yr enw o
Mansua i'r porthladd hwn, a dygid masnach helaeth yn
mlaen rhyngddo a Llydaw a manau ereill o'r Cyfandir.
Gelwid y brif-ddinas yn Gaer Wyddno, yr hon a safai ar
gwr eithaf Sarn Gynfelyn, gerllaw Aberystwyth; ac yma
yr oedd palas y tywysog. Dynodir y fan yn bresenol gan
adfeilion hen furiau.
Dyna hanes byr y Cantref anffodus hwn cyn ei orlifiad;
ond y mae deddfau natur yn ddigyfnewid — i fyny y
dring y fflam, i'r pant y rhed y dwfr — ac y mae trueni
bob amser wrth sawdl afradlonedd. Melldith y bobl hyn
fu glythineb, ac ar ŵyliau yn enwedig gollyngent y
ffrwyn ar wâr blys. Un o'r gwyliau hyn, tra yr oedd
pawb yn ymddigrifo mewn gwleddoedd a rhialtwch, a
Seithenyn y drysawr gan wamaled ag un ohonynt, efe yn
ei feddwdod a esgeulusodd gau y dorau cyn nos, a daeth y
llanw i fewn, yn cael ei hyrddio gan ruthrwynt gollewinol.
Goddiweddodd hwynt mor ddirybydd ag angau disyfyd;
llwyr ddinystriodd eu perllanau; dadwreiddiodd eu deri;
dadsylfaenodd eu haneddau; eu gwartheg a'u hanifeiliaid
a laddodd efe â blaen ewyn ei gynddaredd, a'r rhan
luosocaf ohonynt hwythau a gyfarfuasant a dyfrllyd fedd.
Anmhosibl dysgrifio'r cyfyngder y deffrodd llawer ohonynt
ynddo o gwsg trwm meddwdod, yn cael ei drymhau
gan si marwol y llanw a'u prysur amgylchynai, a'u deffro
yn y diwedd gan ryw dòn wenoer i'w sefyllfa drallodus a
diymwared. Y rhai allasant ddianc a ffoisant, rhai i
Feirion, rhai i Leyn, rhai i Geredigion, a phob un yn
rhedeg am ei einioes i'r ucheldir agosaf ato. Erbyn
tranoeth yr oedd y fangre wedi ei llwyr ddinystrio; y
lasdon a'i mil myrdd preswylwyr yn chwareu hyd y