Enid.
"Moes gusan, Mervin, gwrando; fy nghalon! dyro ddau!
O! Dduw a Mair Fendigaid! mae f'enaid yn llesghau."
Rolf.
"I'r maes, ddyhirwyr anfad."—
Mervin.
"Doed dau i'th ddilyn di,
Ymladdaf a chwi 'n lawlaw : neu ynte deued tri.
Rolf.
"Dos ymaith, Enid, brysia, cei eto weled pa'm
Y buost mor fursenllyd a gwadu 'th dad a'th fam."
Mervin.
"Hyd angau, Enid anwyl; drwy angau awn yn un
Dau ydym annattodol, brïododd serch ei hun."
I'r maes oedd bloedd aflafar y tingcian arfau rhydd,
Ac ar y rhosdir brwynogllaith terfynwyd gwaith y dydd!
XI.
Ar gopa craig uchelgrib uwch-ben y rugog rôs
Y safai'r glân rianod pur wrth ymyl Enid dlos:
Ond, Ow ! mae'n gwylltio; gwrando!—
Enid.
O!'r fyth Fendigaid Fam,
Eiriola ! danfon gymhorth i MERVIN rhag cael cam.
- * * * * * * * *
Y maes oedd wastad hynod; a'r ddwyblaid ddaeth yn mlaen;—
A'r oergri ruddfan dystiai fod marwolaeth ar y waen!
Daeth Rolf i arfod Mervin, a gerwin oedd eu grym,—
Nesaent yn hyf,—ond dyma dri â bwyill miniog llym,
Yn rhedeg yno i helpu,—ond dacw ddau i lawr,
A Rolf a'i ben fel ceubren hyll, yn brathu gwellt y llaw