Tudalen:Cymru fu.djvu/367

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ol â hwy. Pan ddaethant at y coed afalau dyna Sion yn lygio'n ffast yn un o'r prenau; a bu raid i Dywysog Llywodraeth yr Awyr ei ollwng yn rhydd drachefn. Ac er ceisio lawer gwaith wedyn methodd a'i gymeryd oddiar y ddaear hon; a chan ei fod yn rhy ddrwg i fyned i wlad y gwynfyd, a'i wrthwynebydd wedi methu ei gymeryd trwy fodd nac anfodd i wlad y poenau, fo ydyw JAC Y LANTERN; ac os gwir y chwedl, mi a'i gwelais lawer gwaith—er ei fod yn hen, y mae yn hen ŵr sionc eto.

Oddiwrth hen frawd o Lanbedr y Cenin.

NOSON YN YR HAFOD.

O! DIRIONDEB! pa beth sydd ar wyneb y ddaear mor gu ac anwyl a thydi? Yn enwedig felly, pan y ceffir gafael arnat yn nghelfannau'r mynyddoedd, lle'r wyt heb gael llychwino dy ddiliad glân gan anfoes ac annhrefn. I'r mynyddoedd ynte, o ganol dwndwr byddarllyd y trefydd, —O ganol trybestod cibddall gwagymhonwyr coegfalch,—o blith teulu torrog Cenfigen, a phlant ufudd bwriad drwg ac anghariadoldeb! I'r mynyddoedd, i wrando chwiban dolefus y gwynt rhwng dannedd ysgythrog y creigiau; i glywed crawcoer—grasy gigfran; brefgwynfanusyddafad, bloedd gydseiniol y bugail, a chyfarthiad cleplyd y cwn wrth annos! I'r mynyddoedd i gysgu ein heinioes allan mewn unigoldebgwyryfol,—mewn tawelwch gwastadol,— ym mysg ceinion morwynol anian,—a'r rhai hynny yn gweini fel cyfryngau pennodol, yn cyfuno'r amserol a'r Tragwyddol a'u gilydd. Fel ag y mae cribau y mynydd— oedd yn ymsuddo i eigion gwyrddlesni'r ffurfafen, ac fel yn ymgolli yng ngwawl disglaerwyn y nefoedd, felly yn union y cyfunir yno fywyd pur, tawel, a digynhwrf, hefo'r bywyd parhaol hwnw na wêl anfarwoldeb derfyn arno. Am hynny i'r mynyddoedd, Ddarllenydd. Wel, i ba le y cawn ni fyned? Pa un fydd fwyaf difyr a'i cilfechydd Eryri, ai ymguddleoedd y Berwyn? Pa'r un yw'r lle hyfryttaf, ai gwaelodion Nant Conwy a'i