Na chais it' wraig o ferched Heth,
Nid yw ond peth anweddus;
Cais un o dylwyth tŷ dy dad,
Os ceisi râd priodas.
Dacw nghariad ar y dyffryn,
Llygaid hwch a danedd mochyn;
A dau droed fel gwadn arad',
Fel dallhuan y mae hi'n siarad.
Dacw nghariad ar y bryn,
Rhosyn coch a rhosyn gwyn;
Rhosyn coch sy'n bwrw'i flodeu,
Rhosyn gwyn fydd 'ngariad inau.
F'anwylyd, f'anwylyd, pa beth yw eich bryd,
Ai dringo pob cangen o'r goeden i gyd ?-
Y brig sydd yn uchel, a'r codwm sy'n fawr;
Fe geir eich cwmpeini pan ddeloch i lawr.
Mae 'ngariad i'n caru fel cawod o wlaw,
Weithiau ffordd yma, ac weithiau ffordd draw;
Ond cariad pur ffyddlon ni chariff ond un :
Y sawl a gâr lawer gaiff fod heb yr un.
Lleisiau a chydgordiad llon
A wna i'r galon lamu,
Tynu mêl o'r tanau mân,—
Holl anian yn llawenu;
Hynaws dôn yw nos a dydd,
Efelydd i'r nef wiwlu.
Tra fu genyf geffyl mi gawn fenthyg march,
Tra gellais ei ganlyn gan bobdyn cawn barch;
A chroesaw, cymeriad, a chariad, a chwyn,
A nosdawch, a dy'dawch, a d'wedyd yn fwyn—
Anwadal fynediad yw rhediad y rhod,
Y golud pan giliodd newidiodd y nod.
Mi a brynais gan y brenin
Frig y borfa a chreigiau Berwyn,
I fidlo castell ar le gwastad
Uwchlaw Corwen gyda'm cariad.