Tudalen:Daffr Owen.pdf/33

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ar ei gwedd. Ac nid oedd ei thristwch yn llai o glywed, ar ei myned allan o wyddfod y gwŷr, y swyddog calon-galed yn dywedyd wrthi, "You make him own up, missus! I shall be up there shortly myself!"

Ar yr aelwyd adroddwyd yr hanes gan Ddaff yn union fel y bu, ac ymlonnodd y fam rywfaint ar hyn. Ond crynai Daff wrth bob sŵn troed a âi heibio, a'r lleiaf a ddisgwyliai oedd ei draddodi i garchar Aberhonddu, a'i gosbi yno am drosedd Twm Ddwl. Mae'n wir i'r heddgeidwad alw yn yr hwyr brynhawn, ac iddo dynnu allan ei lyfr a gwlychu blaen ei bensil rhwng ei wefusau yn swyddogol iawn. Ond yr oedd wedi dofi llawer erbyn hyn, ac ym mhresenoldeb Mrs. Owen holai'r llanc yn garedig ddigon. Rhoes hwnnw'r manylion unwaith eto, ac wedi awgrymu ymhellach y dychwelai ar ôl clywed ystori Glyndŵr Jones, aeth y swyddog allan. Cododd hyn galon Daff eto'n fwy, oblegid gwyddai y byddai i'w gyfaill adrodd yr un ystori ag a wnaeth yntau.

VII. COLLI A CHAEL

ER syndod i bawb nid oedd Glyn, hwyr noson y Ffêst, ar gael yn unlle, er chwilio amdano ymhob cwrr o'r pentref hyd ganol nos.

Trannoeth, ac ef eto heb ddod adref, cododd yr holl ardal i chwilio amdano, ac ymwelwyd â'r celloedd mwyaf unig yn y creigiau a'r coedwigoedd am filltiroedd oddiamgylch dan y dybiaeth y gallai fod yn ymguddio ynddynt.

Bore Llun a ddaeth, a Glyn eto heb ei gael. Ychydig a ddaeth i'r ysgol o gwbl y bore hwnnw, ac wedi holi pawb yn fanwl, barnodd y ficer a'r ysgolfeistr mai gwell oedd i'r plant hynaf uno gyda'r ardalwyr yn y chwilio, ac i'r rhai lleiaf fynd adref.

Hynny a fu, ac yr oeddynt ar fedr gwneuthur yr un peth fore dydd Mawrth drachefn, gan mai yn ofer y chwiliwyd drwy gydol dydd Llun, pan estynnwyd ilythyr i dad y llanc fod ei fab ar y pryd gyda'i frawd