Tudalen:Daffr Owen.pdf/90

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

graig. Am fod pob sied y deuthai ati hyd yn hyn wedi ei hadeiladu'n union, gwelsai oleuni drwyddynt o'r un pen i'r llall. Ond gan fod y diwrnod hwn yn niwlog, ac hefyd am fod y sied hon ar ychydig o dro, tywyllach oedd hi nag arfer. Sylwodd Daff ar y tywyllwch mwy a phetrusodd ryw gymaint rhag myned i mewn.

Ond ebe fe wrtho ei hun,—" Daff! wna hyn mo'r tro! Yr wyt yn nervous ar ôl helbul yr hen bont. Mae British Columbia y tu hwnt i'r sied ddiwetha', cofia!"

Ar hyn agorodd ei ysgwyddau, ac ymlaen ag ef. Yr oedd wedi cerdded deuparth o'r ffordd, ac wedi mynd heibio i'r tro olaf yn y sied, a'r pen draw felly yn y golwg, yn sydyn gwelodd rhyngddo â'r goleu ryw gorff mawr yn symud yn araf tuag ato. Safodd y llanc fel pe ar darawiad wedi ei droi yn faen. Ond y foment nesaf cododd yr anghenfil ar ei draed ôl, a chyda rhu a swniai yn y lle gwag fel can taran, dechreuodd symud tuag at y llanc yn gynt. Gydag ysgrêch a barodd fraw hyd yn oed i'r gwaeddwr ei hun rhuthrodd Daff yn ôl y ffordd y daeth, nid amgen nag at enau'r sied a diwedd y bont.

Erbyn cyrraedd y man hwnnw credai y truan am eiliad nad oedd modd dianc, am fod y creadur o'i ôl, y llwybr tyllog uwchlaw'r dylif o'i flaen, y graig serth un ochr, a dyfnder na welai ei waelod yr ochr arall. Heb wybod yn iawn beth a wnai dechreuodd ddringo piler cyntaf y sied, a da oedd iddo gynnig hynny, oblegid nid cynt yr oedd efe wedi dringo deuddeg troedfedd nag y daeth y creadur i'r goleu. Arth ddu enfawr ydoedd hwnnw, yn llawn llid a gwancus yr olwg. Am y foment yr oedd Daff yn ddiogel, ond fel yr oedd waethaf iddo ef medrai yr arth ddringo hefyd. Hynny yn wir a ddechreuodd ei wneuthur ar unwaith, a chan mai dringo yr un piler ag a wnaethai Ddaff oedd y ffordd unionaf at ei ysglyfaeth, hynny a wnaeth.

Ond yr oedd Daff erbyn hyn ar y nenbren, a phan drodd ef a gweld bod y creadur yn ei ddilyn, llusgodd ei hun dros oleddf y to hyd at ochr y graig, lle yr oedd