grifio fo i chi can sicrcd a—wel, can sicred a bodolaeth Claudia, ac mi wn i na toes dim lle am amheuaeth ynglŷn â hyny!
Fel hyn y buodd hi. Mi rodd Chamberlain ar 'i draed yn siarad pan ddaeth adeg y stop—tap ar y ddadl, sef deg o'r gloch. Ar yr awr hono, ar nos Iau, yn ol deddf newydd y cloadur, rhaid terfynu pob dadl ar fesur yr Hom Riwl, a chymeryd llais y Tŷ ar y cwestiwn fydd ger bron; tydi o ddim gwahaniaeth prun ai Bardd Cocos ai John Elias, Chip Jac neu Gladstone, fydd yn siarad, rhaid iddo dewi am ddeg o'r gloch nos Iau. Felly 'roedd hi y nos Iau hwnw, a Chamberlain, yr hwn fydd bob amser yn ceisio tynu sylw'r byd ato fo 'i hun, yn siarad ar adeg y stop—tap. Gan weled hyny, mi benderfynodd, gan mai hon fasai'r ddadl ola ar y rhan yma o'r Mesur yn y Tŷ eleni, y buasai fo'n codi storom. Mi roedd Gladstone y noson cynt, wedi desgrifio Chamberlain fel gwas y gŵr drwg, twrnai'r cythraul, neu devil's advocate,—ac mi benderfynodd Chamberlain brofi ei fod yn deilwng o'r teitl. Felly, pan oedd y cloc ar daro deg, dyma fo'n cyfeirio ei fys at Gladstone, ac yn dweyd
"Byth er dyddiau Herod "—
Mi sylwodd y Gwyddelod ar y gair, a dyma T. P. O'Connor yn gwaeddi
'Judas! Judas!"
Wel, fe ddeallodd pawb yr ensyniad, sef fod Chamberlain wedi gwerthu ei feistar Gladstone, a dyma'r waedd yn codi—"Judas! Judas!" tros yr holl le.
A chyda hyn, dyma'r cloc yn taro, a'r cadeirydd yn codi ar ei draed i roid y cwestiwn oedd ger bron i'r fot.
Dechreuodd yr aelodau fynd allan i'r difishyn lobi, y tu ol i gadair y Llefarydd, ond dyma ryw ysbrigin o Dori o'r