Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/132

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyda'r llwch, haner dwsin o aelodau ar eu hyd ar lawr, a'r lleill yn eu sathru dan draed! Ond diolch i'r nefoedd, dim un Cymro, dim hyd yn nod D. A. Thomas, yn mhlith y paffwyr!

Dyna i chwi olygfa adeiladol, onite? Dyna i chwi esiampl o'r "boneddwyr Seneddol!" Dyna i chwi ddynion i wneud cyfreithiau! Dyna i chwi bobl i gadw i fyny urddas Prydain Fawr!

Fedrwn i ddim llai na meddwl ynof f' hun wrth feddwl am y peth ar ol llaw, gymint rhwyddach ydi gwelad brycheuyn yn llygad brawd na thrawst yn llygad dyn ei hun. Coffer mai'r dynion hyn, fuont yn cymeryd rhan yn yr olygfa wrthun a gwarthus hon, oedd y rhai fu'n anog gyru'r milwyr i bentrefi tawel Cymru i wneud casgliad at gynal Eglwys Loegr. "Ddi Parti of Lô and Order" y galwent eu hunain y pryd hwnw. Ond pa le yr oedd y "Lo" a'r "Order" wedi mynd 'rwan, tybed?

Oni bai fod dyn yn gwrido am anrhydedd y wlad, buasai'r olygfa mewn llawer ystyr yn un dra chwerthinllyd. Dyna lle 'roedd Cyrnal Saunderson, yr Ulsteriad gordduwiolfrydig, yn chwareu a'i ddyrnau fel Tom Sayers; mi darawodd un Gwyddel gwanllyd o'r enw Crean nes codi gwaed hwnw i'w wyneb, a dyma ddyrnod yn ol i lygad y Cyrnol nes roedd o'n gweld mwy o sêr yn y Tŷ nag a welodd o yn y ffurfafen erioed; mi roedd golwg reit ddoniol ar yr hen Gyrnol yn tynu'r agoriadau o'i bocad, ac yn rhwbio'i lygad a'r steel oer er mwyn cadw'r llygad rhag duo. Ond mi roedd erill fwy yn eu helfen. Mi roedd Dr. Tanner yn llamu fel hydd dros y meinciau er cael rhan o'r sport, ac un o swyddogion y Tŷ yn maflyd yn i golar, ac yn deyd "Gan bwyll, frawd bach!"

Yn y darlun mae fy nghyfaill Mr. E. T. Reed, darlunydd