Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/134

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Punch, wedi roid o'r olygfa ar dudalen arall, mae o wedi gadael allan rai o'r digwyddiadau mwyaf cyffrous, gan na fedra fo ddim cael pob insident i fewn i un tudalen, ond mi gewch syniad reit dda o'r olygfa welis i'r noson hono trwy rhyn ydw i wedi sgwenu a Mr. Reed wedi ei baentio.

A phwy ddylia chi stopiodd y row? Wel, mi ddeyda i chi. Dau ddyn y mae eu henwau yn dra adnabyddus erbyn hyn. Neb llai yn wir na Dafydd Dafis a John Burns; Cymro a Sais; y gwerthwr llaeth yn Park Lane a'r wyrking man membar dros weithwyr Battersea. Dyna'r gwir i chi ydi hynyna. Ni'n dau ddaru dawelu'r storm. Fi oddiar y galeri, a John Burns ar y llawr. Mi rydw i'n ofni pe tawn i ar y llawr, a'r hen bastwn onen oedd gen i ar ol y gwartheg arstalwm gyda mi, mai dull go ryfadd fasa gin ii dawelu'r ystorm hefyd; mi fasa yno rai penglogau gweigion wedi cael seinio fel pedyll pres.

Ond 'toeddwn i ddim ar y llawr-ar y galeri 'roeddwn i. A phan welis i yr helynt yn enill nerth, a llawr y tŷ yn cael ei wneud yn waeth na llawr tŷ tafarn ar noson ffair, y llawr cysegredig lle bu dynion fel Pym, a Hamden, a Pitt, a Chatham, a John Russell, a Henry Richard, a John Bright, a Gladstone, yn dadleu dros ryddid a iawnderau gwlad a gwerin, pan welis i'r llawr yma yn cael ei wneud yn prize ring i ymladd dyrnau ynddo fo, mi allaswn fod wedi crio o gywilydd. Ond mi wnes i well peth na chrio, mi godis ar fy nhraed, ac mi estynis fy ngwddf dros ffrynt y galeri, ac mi waeddais nerth fy ngheg:

Rhag cywilydd i chi! Hiss! Hiss!! Rhag cywilydd i chi! Hiss! Hiss!!"

Ond gyda hyn dyma ryw bwt o swyddog tordyn yn dod ata i, ac yn rhoid i law ar f'ysgwydd i, ac yn deyd: