Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/160

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar y cwbl, dyma Arglwydd Tredegar wedi rhoid Corn Hirlas yn anrheg i'r Orsedd, a'r corn hwnw wedi costio dros ddwy fil a haner o bunau! Son am Gorphoraethau cyfoethog Lloegr, yn wir! Ddyliwn i fod Gorsedd Beirdd Ynys Prydain am daflu'r holl gorphoraethau rheiny i'r cysgod!

Mi gewch ryw syniad gwanllyd am rwysgfawredd Gorsedd y Beirdd pan edrychoch ar bortread Ab Caledfryn o olygfa hanesyddol ynglŷn â hi. Dacw Morien, ar y naill law yn ymgiprys yn ofer a Hwfa am anrhydedd yr Archdderwyddaeth; dacw'r Athraw Morris Jones a gordd dysgeidiaeth yr oesoedd yn ei law yn ceisio yn ofer ddryllio Meini Sanctaidd yr Orsedd; a dacw Arglwydd Tredegar, a'r cledde oedd gyntho yn y Tsharj of ddi Leit Briged yn y Crimea, yn achub cam Hwfa; ac Arglwydd Mostyn, a Syr Lewis Morris, a'r doethawr John Rhys, yn ymrestru o blaid yr Orsedd i wrthsefyll pob ymosodiad arni! Oh na! Mae'r Orsedd yn meddianu uchelfanau'r maes yn Nghymru heddyw!

Ond mae un peth eto'n ddiffygiol hyd yn nod yn nglŷn â'r Beirdd a'r Orsedd. Maent wedi medru enill mawrion a dysgedigion y wlad o'u plaid, ond hyd yma wedi methu dylanwadu ar Glarc y Tywydd. Y canlyniad ydi fod gweithrediadau'r Orsedd weithiau yn cael eu cynal, nid yn ngwyneb haul na llygad goleuni, ond yn ngwyneb y gwlaw, dan gysgod ym barelo. Dichon y daw hi'n well yn y man ac y llwydda nhw i enill awdurdod ar elfenau natur fel ar elfenau cyfoeth.

Twn i ddim sut bydd hi'r ochr draw, ond yn y dyddiau diweddaf hyn tydi'r beirdd ddim yn foddlon cael eu claddu fel pobol erill. Rhaid iddyn nhw bellach gael Ogo Macpelah neu Westminster Abbey newydd spon i gyd iddyn nhw'u hunain! Watcyn Wyn ydi awdwr gwreiddiol