Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/162

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y syniad yma, ac mi glywis ddeyd ei fod o wedi gwneud cais am petent arno fo, a basa fo wedi ei gael o hefyd cyn yma oni bai fod y beirdd yn methu'n lân a chytuno yn eu plith eu hunain ar batrwm yr Abbey a lleoliad yr Ogo. Myn Cadvan wneud Cylch Sanctaidd ar y Maes yn Nghaernarfon, yn cynwys Careg o bob Sir yn Nghymru i gyfansoddi'r cylch, a chareg fawr yn y canol i roid enwau'r Archdderwyddon yn eu tro arni. Myn Arlunydd Penygarn fynd yn mhellach fyth. Wneith dim llai na'r Wyddfa ei hun ei dro fo fel careg fedd i'r Archdderwyddon; 'twn i ddim pam, chwaith, os nad oes arno fo ofn na wnai dim llai na phwysau'r Wyddfa'r tro i'w cadw nhw'n llonydd yn nhŷ eu hir gartre.

Ond dyma fi wedi crwydro mhell ynte o Steddfod Pontypridd, a Chinio'r Beirdd-ond gwyddoch fod leisens ynglŷn â Steddfod i fynd ble fyd a fynoch mewn anerchiad neu gyfansoddiad.

Ar y ginio Farddol yn Mhontypridd digwyddwn eistedd yn nesa at un o aelodau Pwyllgor Caernarfon lle 'roedd y Steddfod i fod i'w chynal y flwyddyn wedyn, ac mi ddeallais cyn hir ei fod o'n Eisteddfodwr selog iawn.

Ddi Eisteddfod, mei diar syr," ebra fo, "is a splendid institiwshyn! Ei am prowd tw bi a Welshman hwen Ei thinc of ddis gloriys institiwshyn!"

"Da machgen i," meddwn ina.

"Un o'r pethau gora 'nglŷn â'r Steddfod," medda fo'n mhellach, "ydi fod pob enwad, a phob plaid yn medru cydgyfarfod ar yr un ar yr un tir yn hollol arni."

"Ie," meddwn ina, "peth reit neis ydi hyny. Ond mi glywis i fod gynoch chi bump o bersoniaid a dim ond un gweinidog Ymneillduol ar eich Pwyllgor."

"O, damwain i gyd oedd hyny," ebra fo. "Fyddwn ni