Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/177

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD XVII.

RHOSTIO'R AELOD.

Claudia yn darllen llythyr Bryn Roberts—Digter Claudia—Mynd i Ginio—Mr. a Mrs. Wynford Philipps—Claudia'n swyno Bryn—A'i rostio fo.

Mi roeddwn i dipyn yn hwyr yn mynd adre o Dŷ'r Cyffredin un nos Iau, ac yn ofni braidd y basa Claudia yn cadw row—mi fedar hi neud hyny weithia. Fydd hi ddim yn leicio mod i allan yn hwyr,—hyny yw, os na fydd hi gyda mi. Wel, 'toedd hi ddim gyda mi y nos Iau hwnw, ac felly 'toeddwn i ddim yn disgwyl llai na chael fy nwrdio gynthi. Ond, er fy syndod—a'm llawenydd—mi roedd hi'n rhy brysur hefo'r papur newydd i gymyd fawr sylw o hono i. Mi roedd yn darllen mor awchus ac yn anghofio'i hun gymint a phe b'ai hi'n darllen nofel; ac yn awr ac yn y man, torai allan i ddeyd,

"Chlywis i riotswn beth ariod."

"Whei, ddi man myst bi a ffwl."

"Mi ceith hi pan ga i afal ynddo fo!"

Ac ymadroddion cyffelyb yn dangos i bod hi wedi cynhyrfu yn arw. O'r diwedd mi fentris i, ar ol pesychu i dynu ei sylw hi at y ffaith fy mod ina yno, i ddeyd:

"Be sy' gynoch chi 'na Claudia? Ai rhyw stori newydd, neu beth?"

"Stori, wir! Welsoch chi ffasiwn stori wirion a hon yn unman. Llythyr ydi o oddiwrth Bryn Roberts os gwelwch yn dda, gryn ddwy golofn o lythyr wedi cael ei sgwenu