Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/179

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gantho fo i geisio profi fod deg ar hugain o ffyliaid yn Aelodau Seneddol dros Gymru, a dim ond un dyn call."

"A phwy ydi hwnw?" gofynis.

"Fo'i hun-medde fo!" ebra Claudia, gan daflu'r papur o'r neilldu. "Ond cyn wired a'i fod o wedi ysgrifenu'r llythyr mi fydd yn difar ganddo pan wela i o."

Synwn i ddim," meddwn ina.

"Ond sut cawch chi weld o? Ga i geisio gyntho fo ddod yma i dê rhyw ddiwrnod?"

Chwarddodd hithau.

"Na! 'Nol dim w i'n ddeall mi fasa'n well gyntho fo fod heb i dê am wsnos na dod yma ata i i'w gael o! Ond mi fydda i fyny a fo eto!"

Tranoeth, hyny ydi dydd Gwener, dyma Claudia yn deyd ein bod ni'n dau i fod i fynd i giniawa gyda Mrs. Wynford Philipps. Mi rydw i erbyn hyn wedi dysgu nid yn unig yn mhob dim i fod yn foddlawn lle bo Claudia'n trefnu, ond yn mhob dim i fod yn ufudd hefyd. Mi wyddwn ei bod hi'n llafurio mewn amser ac allan o amser, ac yn tynu pob rhyw ffasiwn o weiars, er mwyn cael ffordd rywsut rywsut i mi gael mynd yn Aelod Seneddol, ac felly fydda i ddim yn synu i gael clywad ar fynud o rybydd y mod i i fynd i rywla, pe tae o i Windsor Casl.

Wel, mi euthon i dŷ Mrs. Wynford Philipps ein dau, a mi spelis i cyn mynd fod yna rywbeth neillduol i fod ar waith y noson hono. Mi roedd Claudia wedi gwisgo yn ddel dros ben, pe tae hi'n Iarlles fasa hi byth yn grandiach, a phytai hi'n angyles fasa hi byth yn dlysach. Ac heblaw hyny mi roedd yn gwisgo'r wên hono fydd gynthi hi at iws pan fydd hi yn bwriadu gwneud ei hun yn fwy nag arfar o gymeradwy gan rywun.