Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/186

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Gneud sport mae o am ben fy llythyr i," ebra Bryn yn swil, gan welad i gamsyniad, a dallt fod Claudia wedi cael y gora arno fo wedyn.

Tewch a deyd!" ebra

"Gneud sport o'ch llythyr chi! hi, gan godi'i dwylo i fyny'n syn. "Wel, gif ddi defl his diw; chwara teg i'r Teims, mae o'n gallach nag 'roeddwn i'n meddwl i fod o. Ac mae hyn o gysur i chwitha, Mr. Robaits. Os mai chwerthin am ben eich llythyr mae'r Teims, mae gobaith am danoch chi eto; pe tae o wedi'ch canmol chi rwan, mi fasa pob Libral wedi deyd gwd bei wrthoch chi'n reit siwr. Ond mae rhyw obaith eto gan ei fod o'n y'ch gwawdio chi; tydi'r Teims ddim yn meddwl gneud Iwnionist na Thori o honoch, neu fasa fo byth yn gneud ffyn am eich pen."

Mi roeddan ni 'rwan wedi cyrhaedd y trydydd "cwrs" ar ginio, a'r hyn oedd yn fy synu i oedd sut 'roedd Claudia'n medru enjoio'i chinio gystal,—ac enjoio rostio Bryn 'run pryd. Dan gysgod sbio ar y menyw card (y cerdyn fydd yn ymyl eich plât yn deyd wrthach chi be 'dach chi'n fwyta ydy'r menyw card), mi welis fod Claudia'n stydio nôts oedd gynthi o lythyr Bryn. Ar hyn dyma'r waitar ato fo gan gynyg Salmau Grows iddo fo (rhag i chi gamsynied, 'rwan, nid llyfr oedd y Salmau hyn, ond cig grugieir wedi eu hail dwymo; ond pam y gelwir hwy yn salmau dwn i ddim).

"Sym bigcamel sos, syr," ebra'r waitar.

"No, thancs," ebra Bryn, a chan daflu cil-llygad at Claudia, ebra fo, "Eif had enyff sos ffor twneit Ei thinc." Ond mi roedd Claudia'n reit ffit.

"No thancs," ebra hitha. "Ei'l wêt ffor ddi black game," ac edrychodd yn myw llygad Bryn, ac mi wridodd ynta, a gwthiodd ei salmau heibio heb eu cyffwr nhw.