Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/188

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Ie," ebra hi, drachefn, "siarad 'roeddan ni am eich maniffesto—na begio'ch pardwn, eich llythyr. 'Nol a glywis i mi 'rydach chi wedi gyru copi o'r llythyr i Mr. Gladston, onid ydach?"

Ni atebai Bryn ddim, gan ymddangos yn rhy brysur hefo'i blat.

"Felly wir," medda Claudia. "Ac mi 'roeddach am roid tipyn o startsh yn asgwrn cefn yr Hen Wr i wrthod cais y deg a'r hugain arall, aie?"

Pesychu oedd unig ateb Bryn.

Aeth Claudia'n mlaen wedyn :

"Mi 'rydach chi'n ofni gweld Dadgysylltiad yn cael ei ddadleu 'rwan, gan y bydd y Lords yn siwr o'i daflu o allan ynte?"

Wel mi 'roedd Bryn yn gwelad erbyn hyn na wnai hi mo'r tro iddo fo chwara hefo Claudia. Mi 'roedd yn rhaid iddo fo geisio i gorchfygu hi trwy lojic.

"Ydw," medde fo. "Fydda i ddim yn credu yn y sham ffeits yma, a sham ffeit fydd un Dadgysylltiad tra bo'n ni'n siwr y gneith y Lords daflu'r mesur allan."

"Wel, rhoswch funyd bach," ebra Claudia. "Os nad yw o un diben dadla mesur yn Nhŷ'r Cyffredin os bydd y Lords am i daflud o allan, pam rydach chi wedi dadla Hom Riwl am nagos i flwyddyn gyfan, a chithe'n gwbod mai cael ei gicio allan geith o gin y Lords?"

"Oh, mae'r cesis yn wahanol," medde fo. "Ond i gymyd pwynt arall, amcan pena Cymru fel pob rhan Rhyddfrydol arall o'r deyrnas, ydi cario'r lecsiwn nesa."

"Wel," medde Claudia, "tydw i'n gwelad fawr iws cario'r lecsiwn os na chawn ni ddim byd wedyn. Ond sut cariwn ni'r lecsiwn deydwch ?"