Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/191

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD XVIII.

TRICIAU LLOYD GEORGE.

Amryw ddoniau Lloyd George—Ei wendid o—Claudia'n cael y gora arno fo, wrth gwrs—Gwraig Shon Robaits yn ceisio efelychu Claudia—Ac, wrth gwrs, yn methu—Bedi'r dwymyn werdd?

"Toes dim eisio imi ddeyd wrtha chi mai tshap clyfar ofnatsan ydi Lloyd George. Mi fedar o wneud petha na fedar dim pawb 'u gneud nhw. Mae o'n dwrna sy'n ddychryn i ustusiad Pwllheli; mae o'n areithiwr ar destynau 'blaw politics; mae o'n feistar ar i gynulleidfa prun ai mewn capal ai yn Nhŷ'r Cyffredin y bydd o wrthi; mae o wedi medru gorchfygu Syr John Piwlston a Syr Ellis—Nanney; mae o wedi dod—ac wedi aros—yn ffrindia hefo Evan Jones, Moriah; mae o wedi cael y gora rei troion ar D. A. Thomas;—ond mae yna un peth na fedar o yn i fyw wneud, a hyny ydi sgwenu llythyr! Os nad yda chi'n fy nghoelio i 'rwan, gwnewch chi brawf arno fo. Sgwenwch ato fo unwaith, a dwywaith, a theirgwaith—ac mi ffeia i o neith o ddim atab yr un o honyn nhw. Fedar o yn i fyw wneud! Mae'n well gyno fo yru dwsin o deligrams na sgwenu un llythyr. Pytai pawb fel fo, mi gawsa'r wlad Impirial Peni Teligraff Syrfis yn lle Peni Postej; hyny ydi, mi gaech yru teligram am geiniog, ac mi fasa rhaid talu chwech am stamp llythyr. Dyna ffasiwn un ydi George.

Ond welis i rioed o Claudia ni'n misio mewn dim—ond yn y mater o gael Em Pi ar ol f' enw i. Tydi hi ddim wedi llwyddo yn hyny eto. Dichon y gwna hi ryw dro,