Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/193

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ynte, ond hyd yma ffeilier ydi'r ymgais wedi bod. Mi roeddwn i wedi phlagio hi gymint am waith Lloyd George yn peidio atab llythyr anfonodd hi ato fo ryw dro, fel y cymodd hi'r peth i fyny fel tshalenj.

"Lwc hiar, David." ebra hi. "Iff iw thinc Lloyd George is going tw get ddi betar of mi iw ar mistecn!"

"Tad anwl!" ebra fina. "Ddeydis i ddim ffasiwn beth! Chymwn i ddim llawar am wneud! 'Toes neb welis i hyd yma, na Lloyd George na neb arall, fedar fynd tu hwnt i chwi, Claudia."

"Ddat's flateri," medda hitha. "Ond be ddaliwch chi 'rwan na cha i atab oddiwrth Lloyd George i'r llythyr ydw i am sgwenu ato fo 'rwan?"

"Mae'n ymddibynu ar y llythyr," meddwn ina. "Os mai llythyr yn ceisio gyno fo weithredu fel twrna fydd o, mi gewch atab bei rityrn, a bil am chwech ag wyth am dano fo."

No," medda hitha. "It wil onli bi an ordinari infiteshyn tw a cweiet cyp of ti."

"Wel, mi wn eich bod chi Claudia'n glyfar," ebra fi. "Ond os cewch chi atab gyn George i beth mor gyffredin a nyna, wel, mi goelia i'ch bod chi yn fwy clyfar na Edison."

"Twt! Bedi Edison am ddyfeisio rhwyd i ddal Lloyd George!" ebra hitha. "Ond be ddaliwch chi, David?"

"Fydda i ddim yn leicio betio," ebra fina. Mae o'n groes i Reolau'r Cyffes Ffydd, a fydd yr un blaenor Methodus byth yn betio. Ond er na wna i ddim betio, mi wna i fargian a chi. Os llwyddwch chi i gael atab ysgrifenedig oddiwrth Lloyd George mi ro i i chi unrhyw gais leiciwch chi ofyn imi; ar yr amod eich bod chitha, os methwch chi gael atab, yn gadal llonydd imi am dri mis heb son wrtha i am Parlament na sedd wag."