"Mr. Davies," ebra hi, pan gwrddis a hi'r diwrnod hwnw, "Ei'l nefer fforgif iw; no, nefar!"
Hyw di dw, Mrs. Robaits?" meddwn ina.
" Iwf med mi mec a ffwl of meiselff," ebra hi wedyn. "Wel naddo'n reit siwr," meddwn ina, "fuodd dim bys gin i yn y briwes. Ond be haru chi, deydwch?"
"Wel hyn," medda hitha. "Mi ddarllenis i'ch llythyr chi yn y Genedl, yn deyd sut 'roedd Mrs. Davies wedi cael y gora ar Lloyd George, ac wedi cael atab gyno fo i'r llythyr hwnw yrodd hi ato fo. Mi rydw ina wedi sgwenu droion ato fo heb gael 'run gair o atebiad byth ganddo fo."
"Synwn i ddim," meddwn ina.
"Wel, pan welis i mor glyfar oedd Mrs. Davies wedi bod, mi ddylis ine medrwn ine neud hyny, a chan fod gin i barti acw nos dydd Llun nesa, mi ddanfonis i infiteshon card i Lloyd George, a dau bost-card ynddo fo'n union 'run fath a Mrs. Davies."
"Ie," meddwn wedyn, heb welad point y stori eto.
"Mi roedd y ddau bost-card wedi eu hadresio i mi, ac ar un o honyn nhw mi roeddwn i wedi sgwenu fel y gwnaeth Mrs. Davies:
Ac ar y
Mr. Lloyd George regrets he cannot accept Mrs. Robartes' invitation.
Ac ar y llall :
Mr. Lloyd George will be pleased to accept Mrs. Robartes' invitation.
Ac mi yris y ddau bost-card, fel deydis i, yn y llythyr ato fo, fel medra fo bostio un o'r ddau 'nol i mina."
Ie ebra fina wedyn
"Wel be ddyliech chi naeth o?" medde hi.
"Wel, 'dwn i ddim. Peidio gyru un o nhw'n ol, debyg gin i," meddwn ina.
"Wel nage," meddai hithau. “Mi yrodd y ddau 'nol 'run pryd, ac felly wn i ar y ddaear prun a ddaw o ai peidio !"
Wel, mi chwarddis i yn i gwymad hi. Fedrwn i yn y myw beidio.
"Wel, Mrs. Robaits," meddwn pan gefis fy ngwynt ataf rol chwerthin. "Mae hyn o gysur genych. Mae llawar yn cwyno na fedran nhw byth gael atab i lythyr oddiwrth Lloyd George-ond mi rydach chi wedi llwyddo i gael dau atebiad 'run pryd i'r un llythyr," a ffwr a mi gan adael Mrs. Roberts yn edrych fel hi ei hun, neu fel y deydai hi, fel ffwl gwirion.
A taech chi'n clywad chwerthin Claudia pan ddeydis i'r hanas wrthi hi! Ond mi ddaeth cwmwl dros ei gwynab hi yn y man.
wic."
Pwr Mrs. Robaits," ebra hi.
"Shil tyrn grïn necst
"Troi'n wyrdd?" meddwn i. "Mi glywis i am aml i ddolur lliw, megis y frech wen, y dwymyn felan, y dwymyn goch, a'r clefyd du; ond chlywis i rioed am y dwymyn werdd. Be ydi hi, deydwch ?"
"Iw shal si," ebra Claudia.
A dyna'r cwbwl gefis i, a dyna'r cwbwl gewch chitha tan delo'n amser cyfaddas imi egluro be oedd gyn Claudia yn ei meddwl, ynte.
PENNOD XIX.
FFARWELIO A'R TY AM DYMOR.
Gyda'r Aelodau Cymraeg eto-Bygwth mynd ar Streic-A Pheidio-Y Colera yn y Tý-Claudia'n Dychryn-Minau'n cael Gorphwys A mynd i Ffrainc.
Mi fuodd yr Aelodau Cymreig yn eistadd wedyn mewn comiti i geisio sbonio llythyra Mr. Gladstone. Ond fedran nhw yn eu byw wneud hyny. Mi roedd gan Stiwart Rendel un esboniad, a chan D. A. Thomas un hollol groes, a chan Lloyd George un yn y canol rhwng y ddau; ond 'doedd yr un dewin fedrai ddeyd yn sicr prun o'r tri oedd yn iawn. Mi fuwyd yn eistadd yno am gryn deir awr, ddau ddwsin o honyn nhw (ond bod tri ar hugain o honyn nhw'n ffyliaid 'nol barn Bryn Roberts), ac yn methu'n lân ulw dehongli pysl llythyrau Gladstone. Ac mi rodd yn bwysig cael y dehongliad iawn, canys ar hyny roedd yn ymddibynu be neutha'r Aelodau Cymreig.
Wel ar ol scwrsio a scwrsio yn ddiddiwedd, dyma David Randell yn deyd bod yn rhaid iddyn nhw bellach i benderfynu unwaith am byth beth i'w wneud. Mi roedd o am roid rhybudd dder and dden i'r Llywodraeth na 'toeddan nhw ddim am ufyddhau i'r chwip swyddogol o hyn allan hyd nes basa sicrwydd fod Dadgysylltiad yn y ffrynt y flwyddyn nesa.
Mi eiliwyd o gan y Mejor mewn ffeiting spitsh o'r siort ora. Peidiwch," ebra fo, "peidiwch cyfarth os nad ydach
chi'n meddwl cnoi. Peidiwch bygwth os nad ydach chi'n meddwl gneud. Mi ryda ni wedi pasio gormod o benderfyniadau, ac wedi dangos rhy fach o benderfyniad. Os ca'r Llywodraeth ddeall yn glir ein bod ni am ymladd, ddat wi min ffeiting, mi gawn Marshbancs yn bowio i'r llawr ini, ac yn sivil anghyffredin. Dw i ddim am gwmpo mas a'r Llywodraeth, ond dw i ddim am i Gymru gael ei siomi eto doed a ddelo.”
Ar hyn dyma Bryn Roberts yn tynu allan bapur mawr o'i boced.
"Mr. Cadeirydd," ebra fo, "mai gin i fan yma gopi o'r llythyr ddanfonwyd genyf at ysgrifenydd Clwb Rhyddfrydol Porthmadoc. Gan fod y llythyr hwnw yn ateb pob dadl sydd wedi cael ei dwyn ger bron, a phob un a ellir godi byth, ac yn setlo pob cwestiwn ar sydd neu eto ddaw am y fusnas yma, mi rydw i'n meddwl mai'r peth gora fedra i neud ydi darllen y llythyr yma ar i hyd i chi."
"Ffor mersi's sêc," ebra Syr Edward Reed. "Sper ys ddis infflicshon. Dder is no letar ddat Ei no of, ecsept ddos Ei reit meiselff, ddat wd bi wyrth owr spending teim ofer now."
"Ei mwf," ebe D. A. Thomas, er mwyn rhoid moral syport i Bryn, "ddat ddi letar bi tecn as red."
"And fforgotn," ychwanegai David Randel.
Felly gorfod i Bryn rhoid i lythyr 'nol yn i bocad.
Mi ranwyd y Tŷ ar gynygiad David Randel, ac mi gafwyd saith dros fynd ar streic dder and then, ac 16 yn erbyn.
Wedi hyn mi ddaeth Lloyd George a chynyg yn mlaen. Mi roedd o'n gobeithio fod Gladstone am roi Dadgysylltiad i ni y flwyddyn nesaf, ond fod arno eisio tipyn yn chwaneg
PYBYRWCH TOM ELLIS.
Mi roedd o mor barod
o'i gymhell er mwyn iddo gael esgus dros ddeyd "na" wrth rai erill fasa'n gwasgu ar i wynt o. a'r seithwyr da eu gair i fyned ar streic os na chawn ni Ddadgysylltiad y flwyddyn nesaf. Mi roedd o felly'n
cynyg fod llythyr yn cael ei ddanfon at Mr. Gladstone yn mynegu gobaith a hyder y ceid Dadgysylltiad drwy Dŷ'r Cyffredin yn gynar y flwyddyn nesa; a deyd gyda llaw, unwaith am byth os na cheid hyny y base Cymru'n ffurfio Plaid Anibynol ar blaid Gladstone.
Wel mi eiliodd Tom Ellis o yn galonog iawn, gan ddeyd os deuai hi'n gwestiwn rhwng Cymru a Gladstone, mai gyda Cymru yr ai o, gan fod yn well ganddo, os oedd raid, ddioddef adfyd gyda'i bobl ei hun na chael mwyniant swydd dros amser. Mi roedd o'n ffyddiog iawn er hyny y cai Cymru bob peth oedd arni eisio. Ond mi fasa'n rhaid iddi fod yn daer iawn, a pheidio gildio modfedd o'r tir oedd hi wedi enill eisys.
Mi rodd yn dda gan y nghalon i glywad Tom Ellis yn deyd fel na. Mi wyddwn i i fod o'n ol reit, ond mi roedd yr ymosodiada arno fo yn rhai o'r papura wedi gadael argraff ddrwg ar feddylia rhai pobol, ac mi rodd yn iechyd i'm calon i'w glywad o'n deyd yn streit fel
na.
Ond mi gododd Burnie, Abertawe, i gynyg gwelliant. Sais ydi Burnie sy wedi mynd i'r Senedd wrth gymyd arno i fod o'n Gymro. Taech chi'n i glywad o yn nghyfarfodydd y gwrth-ddegymwyr mi allech gredu mai Cymro oedd o, nid yn unig o wadn ei droed i'w goryn, ond o hoelion i sgidia fo i'r blewyn ucha ar dop i het silc o. Cyn mynd i'r Senedd mi roedd o'n rhyfelwr ofnadwy, ac mi allsech feddwl y basa fo'n dymchwelyd nid yn unig y Llywodraeth ond yr Orsedd hefyd cyn y cai Cymru