Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/202

Oddi ar Wicidestun
Roedd gwall wrth brawfddarllen y dudalen hon

ddiodde. Ond dyma fo 'rwan am roid pob bygwth heibio, a mynd yn dawal wrth gynffon y Blaid Ryddfrydol.

Eilwyd o gan Lloyd Morgan o bobol y byd. Mab y Proffeswr Morgan, o Gaerfyrddin, ydi Lloyd Morgan, a wnaed yn Aelod Seneddol gan y gweinidogion Sentars, yn cael eu harwain gan Thomas Whitland, a Morgans St. Clares, a dewrion Rhyfel y Degwm.

Wel, mi ranwyd y Tŷ wedyn, ac mi gafwyd pymthag dros gynygiad Lloyd George i weithredu ffydd ac amynedd am chwe mis eto, a streicio yn '94 os na cheir Dadgysylltiad; a phump dros ymddiried yn gyfangwbl i Gladstone, heb ofyn cymaint ag addewid ganddo, ac ufuddhau yn mhob dim i'r Chwip pe na chaem Ddadgysylltiad byth.

Mi ysgrifenodd Syr George Osborne Morgan a Sam Evans o blaid cynygiad Lloyd George. Mi ysgrifenodd Rathbone yn erbyn pob penderfyniad o gwbl gan nad oedd ganddo fo yr un i'w gynyg.

Mi wrthododd D. A. Thomas a David Randell fotio'r naill ffordd na'r llall.

Mi roedd y cadeirydd, Stiwart Rendel, yn ffafrio cynygiad Lloyd George, ond 'toedd o ddim yn fotio gan ei fod o'n y gadair.

Mi wrthododd Thomas Lewis, Sir Fon, fotio dros y cynygiad nac yn ei erbyn o nes oedd y cyfarfod drosodd ; ond pan welis i o bora tranoeth mi roedd yn deyd ei fod o'n hollol gydweled 'rwan â'r penderfyniad, ac yn barod i'w gario allan i'r pen.

Mi welwch fod arwyddion yr amserau yn dangos fod Iyng Wêls yn fyw yr adeg hono, ac yn meddwl byw tipyn yn rhagor. Mi rydw i'n ofni'n y nghalon y bydd y

7

BLINO AR Y TY.

gwaith i gyd ar ben cyn y ca i fynd i'r Senedd fy hun—a phiti garw fyddai hyny.

"David diar," ebra Claudia, pan oeddwn i'n parotoi i wisgo❜m het i fynd allan, “ble'r ydach chi am droi 'rwan ?” "Meddwl 'roeddwn i i fynd am dro tua'r Tŷ," meddwn ina, gan ochneidio'n ddistaw bach.

Rhyngoch chi a mina mi roeddwn i wedi blino o nghalon ar fod yn rhyw hanar loffar yma yn y Tŷ. Mi roedd yn ol reit ar y cychwyn. Mi roedd pob peth yno yn newydd imi, a minau'n newydd i'r lle, ac mi roeddwn i'n enjoio'n iawn cael gwelad a chlywad y cwbwl oedd yno. Ond erbyn hyn 'roedd newydd-deb wedi gwisgo ffwr; mi roeddwn i'n gwybod am bob twll a chornel yn y Tŷ yu mron cystal ag am No. 963, Park Lane, ac mi roeddwn hefyd yn adnabod wynebau'r Aelodau gystal ag yr oeddwn yn adwaen y gwartheg ar y fferm acw. 'Roedd y Tŷ rhwng pobpeth wedi mynd yn agos iawn a bod yn flinder i'r corff imi, ac mi fasa'n dda gin y nghalon i lawar tro gael bod yn rhydd rhag mynd i lawr yno. Ond chymwn i ddim llawer chwaith am adal i Claudia gael deall hyny. 'Roedd hi mor awyddus am imi nid yn unig gael eistedd yno ryw dro fel aelod, ond hefyd i wybod sut mae gneud ar ol mynd yn aelod, fel nas gallwn gael ar fy nghalon wneud dim i'w siomi. "Toedd dim ond chwant plesio Claudia wedi'm cynal y dyddiau dweutha hyny; pe tawn i'n aelod f'hun, faswn i ddim wedi blino mwy ar y lle nag oeddwn i fel 'roedd hi. "Meddwl 'roeddwn i i fynd am dro tua'r Tŷ " meddwn. Wel peidiwch," ebra hithe.

"Beth ?" meddwn, gan ofni i bod hi wedi clywad yr ochenaid oeddwn wedi geisio mygu yn y ngwddf.

"Dont go, diar," ebra hi wedyn.

Na, mi rydw i yn rhwym o fynd," meddwn. Chewch chi ddim mynd wir, David," medda hitha'n reit benderfynol. "Rw i wedi clywad am y ddynes hono." "Am y ddynes hono?" meddwn, mewn syndod. Ie'r forwyn hono yn y Tŷ," ebra hi.

Wel dyna lle'r oeddwn i'n treio pyslo mhen pwy alla fod gynthi. Fydda i byth yn wincio ar y merched, nac yn spio arnyn nhw chwaith o ran hyny-hyny yw os na fyddan nhw'n fwy del na'r cyffredin. "Toeddwn i ddim wedi bod 'nunlle na ddylwn i chwaith ond unwaith yn yr Acweriym ac unwaith yn yr Empeiar; y tro cynta gyda Thomas Lewis, Sir Fôn, a'r tro arall gyda Samuel Smith, a mynd ddaru ni'r pryd hwnw er mwyn cael bod yn ddiogelwch y naill i'r llall.

Mi roeddwn i felly'n methu'n lân a meddwl be gebyst allai fod yn ei phen hi wrth son am y ddynes hono wrtha i.

[ocr errors] 'Be 'dach chi'n gyboli Claudia ?" meddwn, yn reit stowt 'rwan. "Be 'dach chi'n gyboli am y ddynas? Tydw i wedi gwelad 'run ddynas sy eisio i chi bryderu dim yn i chylch hi."

Ar hyn dyma hi'n chwerthin.

Oh iw ffwlis boi!" ebra hi. "Iw thot Ei wos jelys did iw? Mi rydach chi'n wirion, David bach! Fel pe bawn i'n y'ch ama chi am foment! Petaech chi'n rhyw hogyn gwyllt fel Lloyd Morgan 'rwan mi fasa rhywbeth i chi feddwl peth fel 'na."

"Wel be haru chi 'nte?" meddwn ina, yn y nifwl o hyd.

[ocr errors] Ond y ddynas hono, druan, sy wedi marw o'r colera," medda hitha.

Wel mi wyddwn i fod un o'r morwynion yn y Tŷ wedi marw o'r colera bora Difia, ond 'toeddwn i ddim yn gwelad beth oedd a fynai hono a mi wedi'r cwbwl.