Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/95

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Williams, Maesgwernen, yn cario ffon fagl, a'r ffon fagl yn ei gario yntau, ar hyd rodfeydd breiniol aelodaeth Senedd Prydain.

Yr ail olygfa gefais noson arall. Gael i chi gael deall, 'rwan, mae yna etholedigaeth gras yn perthyn i ymwelwyr â Thŷ'r Cyffredin. Dyna'r Members' Gallery, a'r Speaker's Gallery, a'r Distinguished Strangers' Gallery, oll ar y llofft, ond lle ryda chi'n colli golwg ar ran fawr o'r Ty. Y man ystyrir y mwyaf dewisol ydyw'r hyn a elwir "Under the Gallery," sef y sedd ar lawr y Tŷ agosaf i'r drws. Yma yr ydych yn ymarferol yn y Ty, a does dim ond reling haiarn ysgafn yn eich gwahanu oddiwrth yr etholedigion yn y Tŷ ei hun. Fydd dim ond lle i lai na dau ddwsin yn yr "Under the Gallery" i gyd, ac fel rheol cha neb ond Ysgrifenyddion Cyfrinachol rhai o'r Aelodau eistedd yno. Ond mi roeddwn i erbyn hyn y nesa peth i fod yn Aelod f' hun, ac felly mi roeddwn i mor gyson Under the Gallery ag oedd John Owen pan ddaeth y Suspensory Bill, a chwestiwn Dadgysylltiad, yn mlaen.

Ond y noson hono yr oeddwn wedi blino bod o dan y galeri, canys er ei fod yn lle braf i weled a chlywed pan fydd dadl ar droed, rhaid i chwi fynd allan i'r lobi bob tro y cymer ymraniad le; a chan fod ymraniadau yn fynych y noson hono, dyna lle'r oeddwn i, fel rhyw fath o Jac yn y bocs, yn neidio o'r lobi i ynder ddi galeri, ac o ynder ddi galeri i'r lobi o hyd. Felly ceisiais gan Alfred Thomas fynd a mi i'r galeri. Does dim gwell dyn yn yr holl Dŷ i gael rhyw ffafr fel yma ganddo na'r aelod dros Ddwyrain Morganwg, a llwydda yn aml lle metha ereill. Felly cefais fynd i'r galeri, a chefais le cysurus yno lle gallwn weld y cwbl a chlywed llawer.