Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/98

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wel, nid hir y buwyd cyn cymeryd ymraniad o'r Tŷ ar un o'r “gwelliantau” fel y gelwir yr ymgais i ddifetha'r Hom Riwl Bil yma. Ac yn y fan gwelwn olygfa ryfedd. Gwelwn henafgwr urddasol yr olwg arno yn rhodio tua'r drws oedd yn arwain i'r lobi lle byddid yn pleidleisio yn erbyn y Llywodraeth.

“Hi's going rong agen! Ies, conffownd it, hi's going rong agen!” ebe gŵr yn fy ymyl.

“Pwy ydi o, deydwch ?” gofynais.

“Mr. Rathbone, yr aelod dros Arfon, ydi o,” oedd yr atebiad. “Mi gawson fyd o drafferth i berswadio'r blaid i'w dderbyn y tro o'r blaen, gan fod llawer yn ei amheu fo, ac mi rodd Gladstone yn ei amheu fo hefyd ran hyny,— a'r Toris yn reit foddlon iddo. Ond mi ddaru ini wneud ein goreu, ac mi cawsom o i fewn yn ddiwrthwynebiad. A dyma fo'r ffwl gwirion, yn fotio gyda'r Toriaid yn erbyn Gladstone a'r blaid eto!”

Cyn imi gael ateb, dyma ddyn main, tal, a barf hirllaes wen, fel barf Aaron, yn rhuthro ar draws llawr y Tŷ ac yn ymaflyd yn ngholar Mr Rathbone, gan geisio ei berswadio i droi tua'r lobi arall.

Wel don, Sam Smith,” ebe fy nghymydog, a chyda hyn dyma Mr. Storey, aelod Radicalaidd arall o Loegar, yn dod i helpio'r aelod dros Sir Fflint, a dyna lle'r oeddan nhw, Sam Smith a Storey, yn 'maflyd yn ngholar Rathbone, un bob ochor iddo fo, ac yn ceisio'i berswadio fo nerth braich; 'nol egwyddor mysciwlar Cristianiti, i droi o'i lwybr cyfeiliornus, Ond wnai o ddim. Mi rodd mor stiwpid a mul. Ysgydwodd yn rhydd o'u gafael, a ffwr a fo yn gynffon i'r Toris yn erbyn Gladstone. Mi gafodd ras ar ol hyn, ond 'doedd neb wyddai ble y ceid o fwy na Syr Edward Reed pan ddoi hi'n daro ar y Weinyddiaeth.