Mae yma lawer o ddarnau wedi eu codi o Almanaciau John Rhydderch o ddyddiau 1718, 1722, 1726, 1727, 1728. A dwy chwedl allan o "Dlysau'r Hen Oesoedd. Barddoniaeth yw'r ail ran, ugain o ddarnau, a rhai yn feithion, a'r oll o'r "ail-awen,"
os nad o ddosbarth pellach ei berthynas a'r awen wir na hynny; oddi—gerth dau ddarn gan Dafydd ap Gwilym. O'r ugain, mae 3 o waith Sion Tudur, ac 8 o waith Rhichard Parry o'r Ddiserth, Athraw Ysgol, Gwehydd, a Bardd, 1746," yn ol darnodiad Dafydd Jones o hono. Ystraeon y rhan gyntaf yw mwyafrif darnau barddonol yr ail ran, ond eu bod lawer llai swynol wedi eu troi i ffug-farddoniaeth. Mae darnau Richard Parry yn hirion, ei Ddihuniad Cysgadur yn ddwy ran, a "Hanes yr Oferferch " yn bedair rhan. Math o chwareu-gerddi byrion ydynt.
Mae'r un a elwir Polygynaeon" wedi ei thrwsio gan y casglydd ei hun, a rhydd y rheswm canlynol dros ei waith,—
"Derbyniwch hyn o hanes,
Yn gyfan fel i cefes
Mewn hen garp o 'Scrifen
Prin medrai neb i ddarllen;