awr ni roddwn fras olwg dros y cyfrolau a fu yn ei feddiant ef.
I. Additional MSS. press mark 9864 (Amgueddfa Brydeinig). Tair cyfrol a thair cyfrol o achau. Cyfrol unplyg yw'r gyntaf o 288 tud.; hon yw gwreiddiol y "Display of Heraldry." Cyf. ii. yn bedwar plyg, 448 tud.; cyf. iii. o ddyddiad llawer hynach. Mae iddynt y cyflwyniad canlynol,—
"The gift of David the son of Thomas Pennant Esq. of Downing to the Library of the British Museum Oct. 1835.
"Two Volumes of Pedigrees by Mr. John Davies of Rhiwlas in Llansilin, the author of the Display of Heraldry published in Shrewsbury in 1716. These MSS. were purchased by the Thomas Pennant Esq. from the Executors of David Jones of Trefriw, one of the first printers in the Principality and who was presented with a fount of letters by the celebrated Mr. Lewis Morris."
II. Additional MSS. p. mark 14973, folio, 167 tud. Casgliad o farddoniaeth o weithiau Dafydd ap Edmwnt, Tudur Aled, Yr Ynad Coch, Sion Tudur, Thomas. Owen Llanelwy, &c. Ceir yma ar ymylon y dail lawer o benillion crefyddol, nes i ffurf emynnau'r Diwygiad na'r carolau