Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/80

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cymerwn Dewi ar ei air, mai mawl ac nid gogan i ferch o'r enw An yw'r uchod. Os mawl, mawl heb ei eneinio â fawr o wlith barddoniaeth, ond gobeithio ei fod yn onest a synhwyrol. Er mai tasg mewn gosod geiriau ynghyd ydyw, hi yw'r gân ystwythaf a chywiraf o ran mesur o'i holl ganeuon.

"Carol Plygain, a gymerwyd o Gân y 3 Llange a St. Ambros, i'w ganu ar fesur Barna Bunge." Nid cân y Tri Llanc yn hollol wedi ei throi ar gân yw hon, ond Carol wedi ei chymeryd o Gân y Tri Llanc fel y dywed yr awdwr. Mae'n ddernyn maith o ddeuddeg pennill, ac y mae ei syniad yn dda,—sef troi gwedd foliannus Cân y Tri Llanc yn garol Nadolig, ac mae dlysed ei farddoniaeth ag y gellid disgwyl. Wele engraifft,—

"Chwi holl weithredoedd brenin nef
Bendithiwch ef yn ufudd;
Molwch ei enw ef drwy'r byd
Yn galawnt gyda'ch gilydd;
Angylion glan o'r nefoedd wen,
A'r holl ddyfroedd sydd uwch ben,
A nerthoedd rhi Jehofa Rhen,
A'r wir ffurfafen ffurfiwch,
Haul a lleuad gyd a sêr,
Cawodau gwlaw a gwlithoedd pêr,
Euroclydon a gwyntoedd ner,
Yn dyner cyd ordeiniwch.