Tudalen:Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785).pdf/87

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

O Arfon dirion dyrog—y tardda
At urdd wawr flodeuog,
Fawl min gân fel y mwyn gog,
Fraich anwyl i Frycheiniog.

[1]Theophilus iaith hofflawn
Oleu ras ail i Aaron
Fel Dafies[2] wiw flodeuyn
Goreu glwys gu eurog lin.

Peryglor Ifor Evan ail ydych,
Hael odiaeth berffeithlan,
Ac ieithydd yn gwau weithian,
Cymraeg lwys i'r Cymry glân.

Dosbarthu, rhanu yn rhwydd—hanesion
Hen oesoedd yn ebrwydd;
Gwr hylaw, gywir hylwydd,
Rhywiog lân ar we aeg lwydd.

Drych gwiwlan, dyddan i'n dydd—un ydyw,
Iawn adail waith crefydd;
Goludog iach i'n gwledydd,
Gwiw dw'ffel i gyd a'i ffydd.

Drych y Prif (a rhif ar hyd—yr) Oesoedd,
Aur eisoes o'r cynfyd;
Drych gwiw-lwys edrych golud,
Hynaws bwnc o hanes byd.


  1. Proest gyfnewidiog.
  2. Dr Dafies a ysgrifenodd y Geirlyfr Cymraeg.