O Cymru (gol O.M.Edwards), Cyfrol XV, Rhif 84, 15 Gorffennaf 1897, tudalen 8-11
Dafydd Jones o Gaio.
NID oes un sir yng Nghymru wedi cynyrchu cynifer o emynwyr a sir Gaerfyrddin, ac nid oes un ardal yn y sir honno wedi bod yn gartref i gynifer o awdwyr caniadau Seion a'r rhan uchaf o honi. Yno y trigai Richard Dafydd, John Dafydd, a Morgan Dafydd o Gaio. Heb fod ymhell, yn Llanfynydd, y cartrefai Morgan Rhys, ac yno y gorwedd ei lwch heb un beddfaen teilwng yn dangos ty ei hir gartref. Yn Nhal y Llychau y bu Thomas Lewis yn gweithio ei grefft fel gof du, ac y mae swn yr eingon yn ei bennill "Wrth gofio ei riddfannau'n yr ardd." Clywais un o'i brentisiaid yn dweyd sut y byddai Thomas Lewis yn canu wrth daro yr haiarn, ac oddiwrth y desgrifiad credwn na ddaeth neb a mwy o ysbryd y gŵr a garai mor gynnes at ei oruchwylion beunyddiol. A fyddai yn bechod i osod geiriau Wesley yn ei goffadwriaeth—Y mae gwaith yn addoliad?" Bu y per ganiedydd Williams o Bant y Celyn mewn cysylltiad agos â'r ardal am dymor maith, ac yma yn ddiau y canwyd y rhan fwyaf o'r emynnau am y tro cyntaf. Nid y lleiaf ymhlith yr emynwyr hyn oedd John Thomas Cwmsidan, a Dafydd Jones o Gaio,—cyfieithydd Salmau ac emynnau Dr. Isaac Watts, fel yr adnabyddir ef yn gyffredin.
Yr olaf o'r ddau yma oedd y cyntaf i gyfansoddi hymnau ar gyfer plant. Efe a deimlodd, feallai am y waith gyntaf yn eglwysi Cymru, fod yr Hwn a osododd ei ogoniant uwch y nefoedd yn peri nerth o enau plant bychain a rhai yn sugno. Fe hefyd biau lawer o emynnau mwyaf adnabyddus ein caniadaeth, megis "Wele cawsom y Messiah," "Yr oen aeth dan fy mhennyd i a'm poen," "O Arglwydd galw eto," &c.
Ganwyd Dafydd Jones o Gaio mewn ffermdy o'r enw Cwmgogerddan, yn ymyl pentref Crug y Bar, ym mhlwyf Caio. Gwlad wastad yw yr ardal, ac ar y gwastadedd hwn, yn ol traddodiad, yr ymladdwyd un o'r brwydrau mwyaf poethlyd rhwng Buddug a'r Rhufeinind. Dyma Faes Llanwrthwl. Daniel John oedd enw tad Dafydd, ond nid oes un darn o'i hanes ar gael, ond yn unig mai efe oedd perehen y ddwy fferm nesaf at eu gilydd, sef Cwmgogerddan Isaf a Chwmgogerddan Uchaf. Ni wna ei fab gymaint a son am dano, ac ni chyfeiria mewn dim a ysgrifennodd at ei fam ychwaith, ond ceir gair mewn rhigwm o'i eiddo am ei chwiorydd, a thybir fod ei dad a'i fam wedi marw pan oedd efe yn ieuanc. Y mae lle tyner iawn yng nghalon pob bardd i lun ei fam, ac nis gallwn lai na chredu, pe buasai mam Dafydd Jones byw pan ddihunodd ei awen, y buasai wedi canu rhywbeth iddi. Ni sonia am ei chariad pan yn desgrifio tynerwch, ac ni awgryma yn un o'i ffigyrau y gŵyr ddim am ei gofal, ei gwen, a'i chalon.
Nid yw yr ardal wedi bod yn anenwog ar hyd yr oesoedd am ei manteision addysg. Bu Monachlog Tal y Llychau am hir flynyddau yn gartref diwylliant ac addysg. Tua dechreu y ganrif o'r blaen cawn ysgol adnabyddus yn Caio a gedwid gan ficer y plwyf,—y Parch. Leyshon Lewis. Bu yma offeiriad arall o'r enw Morgan yn cadw yr un ysgol. Curad oedd hwn, ac ni fu yn llanw un swydd oedd uwch am ei fod yn "caru ei ddyferyn." Pan fyddai o dan gynhyrfiad y gwirodydd deuai i fewn a'i fedwen yn ei law. Curai gliniau yr ysgolheigion mewn braw, a chyflymai eu gwaed gan ddychryn wrth weled eu penaeth yn nrws yr ysgol a'i lygaid yn fflam. Nid euogrwydd pechod y plant oedd yr achos o hyn, eithr dialai y curad ar gefnau y rhai oedd dan ei ofal am nad oedd siawns iddo byth am ddyrchafiad yn yr eglwys. Wedi curo popeth o fewn ei gyrraedd, bloeddai ar nodau uchaf ei lais "Nomen non crescens genitivo," yr hyn o'i gyfieithu yn iaith amgylchiadau yr ysgolfeistr hwn oedd "Curad oeddwn i, a churad fyddaf fi."
Bu y Parch. Richard Davies o'r Ynysau yma wedi hyn, ac ni thorrodd yr ardal ei chymeriad fel cartref addysg o'r radd flaenaf pan sefydlodd yr enwog Barch. William Davies, Ll.D. yn Ffrwd Fal flynyddau lawer ar ol hyn.
Cafodd Dafydd Jones addysg dda. O leiaf y mae yn amlwg ei fod yn deall yr iaith Saesneg yn dda am ei fod wedi cyfieithu ambell i ddarn pur anhawdd o waith yn llythrennol gywir.
Nid oes tystiolaeth gennym ei fod wedi dechreu barddoni cyn dydd ei briodas. Ar y diwrnod pwysig hwnnw yn ei hanes yr anturiodd yn gyhoeddus i roddi ei feddwl allan mewn rhyw fath o rigwm. Aeth dros y mynydd heibio i Graig Twrch, a thrwy Llanddewi Brefi, i briodi Miss Jones, Llancarfan, yn ymyl Llangeitho. Yr oedd llawer o ddireidi yn cael ei ymarfer ym mhriodasan y dyddiau gynt, a gallem feddwl fod rhai o'r pethau rhyfedd a gymerent le