gyda bloddest i Seion, yr wyf fi yn canu esgyniad fy Iachawdwr i'r nef, neu ei bresenoldeb yn ei eglwys ar y ddaear. Lle y mae efe yn addaw helaethrwydd cyfoeth, anrhydedd, a hir oes, mi a newidiais rai o'r bendithion cysgodol hyn am ras, gogoniant, a bywyd tragwyddol, y rhai a ddygir i oleuni trwy yr efengyl, ac a addewir yn y Testament Newydd."
"Oherwydd," meddai Dafydd Jones, "nad oedd y fath beth wedi ei gyflawni yn ein iaith ni o'r blaen, ynghyda hiraeth am weled cyfansoddiad o'r fath gyda ninnau, trwy gynghor ac anogaeth rhai gweinidogion parchedig (ond nid heb olwg ar fy anghymwysdra fy hun), mi a ymosodais ar y gwaith; a thrwy lawer o boen a llafur (ond nid heb lawer o bleser a hyfrydwch weithiau) mi a'i gorffennais; ac wedi cael barn a phrofiad rhai gweinidogion dysgedig arno, danfonais ef i'r argraffwasg; ac wedi ei ddyfod i'm llaw drachefn yr wyf yn ei anfon i'm cydwladwyr dymunol; yr hyn beth sydd fath o gyfieithiad neu gyffelybrwydd o Salmau y difynydd parchedig hwnnw (Dr. Isaac Watts) mor agos ag y gellais i gael gan y ddwy iaith gydgordio a'u gilydd ar fesur cerdd." Dyna'r amcan oedd ganddo mewn golwg, a theg yw i ni, pan yn beirniadu ei waith a'i gydmaru ag eiddo ereill, yw cadw yr amcan oedd ganddo mewn golwg o flaen ein llygaid.
Ei holl gyhoeddiadau oeddynt,—
1. Cyfieithiad o Salman y Dr. Watts. Yr argraffiad cyntaf. Argraffwyd yn Llundain gan Ioan Olifer. 1753.
2 Cyfieithiad o "Hymnau a o "Hymna a Chaniadau Ysbrydol Watts.
3. Caniadau dwyfol i blant," sef cyfieithiad o Watts' Divine Songs for Children
4. Difyrrwch i'r pererinion, sef ei ganiadau ef ei hun
5. Can Dduwiol, ar ddull ymddiddan rhwng Proffeswr human-gyfiawn a'i gydwybod wedi ei argyhoeddi.
Bu farw yn 1777, yn 66 mlwydd oed, a chladdwyd ef yng Nghrug y Bar, a chywilydd i'n gwlad yw y ffaith nad oes un beddfaen yn dangos lle cul ei gartref. Murmura y nant wrth fyned heibio, ac y mae i'w hymnau le mawr yng nghalonnau y saint, ac hwyrach fod hyn, wedi'r cyfan, yn well cofgolofn na dim a fedr celfyddyd godi. O leiaf, y mae llu mawr o'r dynion a fu yn cerfio cymeriadau yr oesoedd gynt yn gorfod ymfoddloni arnynt.
Dowlais. D. CUNLLO DAVIES.