Tudalen:Dafydd ap Gwilym Detholiad o'i Farddoniaeth.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Ateb ni chaiff tra fo fyd;
Wtied i ddiawl beth ynfyd."
Talmithr im reg y loywferch,
Tâl bychan am syfrdan serch.
Rhaid oedd im fedru peidiaw
A'r foes hon, breuddwydion braw.
Gorau im fyned fal gŵr
Yn feudwy, swydd anfadwr.
O dra disgwyl, dysgiad certh,
Drach 'ynghefn, drych anghyfnerth,
Neur dderyw im, gerddrym gâr,
Bengamu heb un gymar.


Amnaid.

FAL yr oeddwn ymannos,
Druan iawn, am draean nos
Yn rhodiaw, rhydaer ddisgwyl
Rhy addwyn oedd, rhyw ddyn wyl,
Gar llys Eiddig a'i briod
(Gwaeddai'm ôl pe gwyddai 'mod)
Edrychais, drychaf drymfryd
Tew gaer, gylch y tý i gyd.
Cannwyf drwy ffenestr wydrlen,
Gwynfyd gwýr oedd ganfod Gwen!
Llyma ganfod o'm ystryw
Yr un fun orau yn fyw.
Llariaidd yw llun bun benfyr,
A'i lliw fel Branwen ferch Llyr,
Nid oedd liw dydd oleuni
Na haul wybr loywach no hi.