Y FERCH dawel wallt felen,
Eurwyd y baich ar dy ben.
Gwyn yw dy gorff ac uniawn,
A lluniaidd wyd, llyna ddawn!
Cyd bych, lanwych oleuni,
Deg a mwyn er dig i mi,
Gwneuthur brad yn anad neb,
Em y dynion, mae d'wyneb.
Dyrcha ael fain, d'orchwyl fu
Dristáu gŵr dros dy garu.
Duw a liwodd, dâl ewyn,
Dy wallt aur i dwyllo dyn.
Gweniaith brydferth a chwerthin
Erioed a fu ar dy fin.
Os dy eiriau ystyriaf,
Gruddiau gwin, gorwedd a gaf.
Gwell bedd a gorwedd gwirion
Na byw'n hir yn y boen hon.
Gwae fi, gwn boeni beunydd,
Weled erioed liw dy rudd.
Y ddwyais, ni haeddais hyn,
A guriodd o'th liw gorwyn.
Aeth dy wedd, Gwynedd a'i gŵyr,
A'm hoes innau a'm synnwyr.
Un drwg fydd ewyn ar draeth,
Llai a dâl, lliw hudoliaeth,
Lliw'r lili a henwi hud
Llwyn o ddail, lle ni ddelud.