Tudalen:Dagrau hiraeth - neu, alareb goffadwriaethol, lle y gwneir coffhad am dros ddau cant a deg-ar-hugain o weinidogion yr efengyl, perthynol i'r gwahanol enwadau crefyddol yn mhlith y Cymry (IA wg35-5-244).pdf/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Robert Roberts o Dolanog,
William Llewelyn nid anenwog,
Lewis Evans, ble mae hwnw?
Yn y gladdfa gyda'r meirw.

Ble mae Williams, Castellnewydd,
Davies o Llandeilo-fawr,
Ble mae Morgans, o Gaerfyrddin?
Yn eu beddau oll yn awr.
Daniel Davies, Aberteifi,
Doctor Phillips, Neuaddlwyd,
Ble mae Willian Jones o Rhuddlan,
Enwog ddyn o Dyffryn Clwyd?

Ble mae Evan Jones, Ceinewyd,
Jones, Blaenanerch, wedi hyn,
Daniel Davies, rhaid ei enwi,
David Davies o'r Twrgwyn,
Jones, Penmorfa, Henry Davies,
David Jones o Tanygroes?
Heddyw'n iach o'i holl gystuddiau,
Uwch law cyrhaedd unrhyw loes.

Ble mae Richard Jones o Llanfair,
A John Prydderch o Sir Fôn,
William Charles, a Hugh, a David,
Anhawdd ydyw tewi a son.
David Jenkins o Llanilar,
David James o Sion fryn,
Evan Evans o Llangeitho,
A John Williams gyda hyn?

Ble mae Griffiths o Casnewydd,
Moses Rees, gynt o Groeswen,
Moses Ellis, Mynydd Islwyn,
Philip Griffiths o'r Alltwen.
Ble John Edwards o Blaenpennal,
Jones, a Richards o Rhydlwyd,
Isaac James, ac Evans, Elim,
Emrys Evans, Dyffryn Clwyd?