R'wyn gobeithio eto gwrddyd,
R'ochor draw a'r dir y bywyd,
Heb ddim parti sel na phechu,
A phob dragrau wedi eu sychu.
Crist a'i groes yn destun canu,
Am rhyw gesoedd dirifedi,
Yn lle croes yn gwisgo coron,
Ymhlith myrdd o delynorion.
Gwisgo palmwydd yn lle cleddau,
Telyn aur fydd yno i chwareu,
Dim o wres yr haul yn taro,
Newyn, syched byth i'n blino.
Rhown y clod i'r Duw a'n pia,
Mynwn ran o'r nefoedd yma,
Yn rhyw ernes cyn ein marw,
O'r dedwyddwch rhyfedd hwnw.
Boed i'n gadw golwg gyson,
Ar y cwmwl mawr o dystion,
Ac sydd heddyw wedi blaenu,—
Ond yn benaf ar yr Iesu.
Y mae hiraeth yn fy nghalon,
Ar ol cynifer o gyfeillion,
Sydd yn awr yn iach a llawen,
Wedi croesi'r hen Iorddonen.
Seion, Seion, paid ac wylo,
Y mae'r Iesu'n aros eto,
Ac mae ynddo bob cyflawnder,
I dy gadw uwchlaw pryder.
—AMEN.
Mawrth 14eg, 1865.
Philip Williams, Argraffydd, Heol y Bont, Aberystwyth.