cystal yn ei Saesneg anystwyth. Cafodd ollyngdod nid bychan pan agorodd Alina y drws a dod i mewn ar ei hald fel arfer.
"Dyma wraig ddiarth eisiau eich gweld, Alina,' ebr hi yn Gymraeg, a da oedd ganddi gael mynd i'r gegin gefn a gadael y ddwy gyda'i gilydd.
"Y chwi yw Alina Morgan, onid e?"
"Ie," ebr yr eneth, gan syllu'n gwestiyngar ar y wraig a safai'n bur urddasol ar ganol y llawr. Syllai'r wraig arni hithau, a rhyw wên foddhaus ar ei hwyneb.
"le," ebr hi, "y chwi yw'r eneth yn ddi-os. Ni fuasai'n rhaid imi ofyn, yn wir."
"Maddeuwch i mi, ond yr ydych chwi'n gwbl ddieithr i mi," meddai Alina.
"I dori'r stori'n fyr: y fi yw eich mam."
Syfrdanwyd yr eneth gymaint gan y geiriau hyd oni chamodd yn ôl wysg ei chefn, yn union fel petai hi wedi ei tharo â dwrn yn ei hwyneb. Cochodd hyd at fôn ei gwallt, a gwelwodd wedyn. Cafodd ei tharo gymaint fel na fedrai lefaru gair am yr eiliad a oedd iddi fel hanner awr.
Safai'r ddynes hanner cant oed, a'r eneth un ar hugain oed, yno'n syllu ar ei gilydd. Yr oedd y tebygrwydd rhwng y ddwy yn gwbl glir, petai yno ryw drydydd person i sylwi ar y peth. Yr unig wahaniaeth ydoedd bod mwy o gnawd am yr hynaf, a'i gwallt du, tonnog wedi britho. Yr oedd yr aeliau