Tudalen:Dan Gwmwl (Awena Rhun).djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wedi. cael sgwrs hir â Mrs Owen, Rock View. Bu'r ddwy wraig hyn yn garedig dros ben yn ei sicrhau p'le i ddod o hyd i Alina. "Y mae Rhagluniaeth yn ein harwain yn dirion o hyd, pe gwelem hynny," ebe hi wrth fynd allan.

Rhyw bigo bwyta 'r oedd Alina, a rhoes y darn brechdan o'i llaw yn sydyn ar y plat gan eistedd yn ôl yn ei chadair: Wyddoch chi beth," ebe hi, "fedra i ddim dweud 'mod i'n falch o weld y ddynes 'na, wedi'r cwbl!"

"A chithau wedi dyheu cymaint am gael cwrdd â'ch mam? Dylech fod yn falch, Alina fach. Y mae hi'n ddynes hardd o bryd a gwedd. Golwg taclus arni. Beth petai hi yn hen beth gomon yr olwg, â ' llygad du ganddi—ôl ei gŵr neu rywun wedi ei tharo—'run fath â honno a'i thri phlentyn a ddaeth i dŷ Jane Williams, Tŷ'r Gongl? Cyn belled ag y gwelaf i, y mae eich mam yn ddynes nobl iawn. Rhaid coelio mai eich mam ydi honna. 'Rydych yr un ffunud â hi, ond eich bod chi'n ifanc a ddim mor dew â hi, a'ch gwallt chi heb fritho a phethau felly. Synnwn i ddim na byddwch chithau'n dew pan ewch i'w hoed hi."

"Mi rown y byd yn grwn am gael gweld Anti Lora am funud bach 'rwan! Ni chaf yr un fam byth i'w chymharu ag Anti Lora! Anti Lora oedd fy mam i," meddai, a rhoes y ffordd i feichio crio.

Gwelodd Sera Defis mai gadael i bethau gymryd eu cwrs oedd raid, ac mai gormod hwyrach ydoedd