gynt, yn enwedig pan godai ryw ymdderu rhyngddynt.
Awydd edliw? Dim o'r fath beth! Ond 'ro'n i jyst yn meddwl pethau mor rhyfadd ydi merchad."
"Rydw i'n cyfadda mai ifanc gwirion oeddan ni ers talwm, Pan briodais i di, mi ddois i'n gallach."
"Fûm i 'rioed yn gneud swydd yn y tŷ i mam pan own i'n ifanc."
"Naddo. Mi wn i hynny'n dda. A dyna sut y leicis i di gymint. Ac onid oedd gen ti chwaer gartref i helpu dy fam? A pheth arall, 'roedd dy fam yn hen-ffasiwn ei ffordd. Credai mai i dendio ar ddyn yr oedd merch yn dda. Ond y drwg oedd bod rhai fel dy fam yn ych difetha chi fel dynion gyda gormod o dendans. Mae syniadau merched wedi newid erbyn heddiw."
"Ydi, y mae syniadau g'nethod wedi newid yn arw. Gwell gynnyn' hw' weithio ar y tir a dal llygod mawr, neu yn y ffatrïoedd, neu yn rhwla, nag mewn tai. Mae gofyn i bob hogyn gael ei ddysgu i gwcio a gneud gwaith tŷ o hyn allan, fel y medar o dendio arno'i hun, druan."
"Mi 'rydw i o'r farn bod isio i bob hogyn gael dysgu sut i dendio arno'i hun. Mae'r byd 'ma wedi newid yn ofnadwy i'r peth fuo fo."
"Ond er ych gwaetha chi'r g'nethod ers talwm, mi gafodd Wili wraig iawn."
"Do. Mi gafodd ddynas gryfach nag a gest di. Aeth Wili yn fwy lwcus na thi."