Tudalen:Dan Gwmwl (Awena Rhun).djvu/57

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Beth sy arnoch chi'ch dau? " oedd ei chwestiwn.

Edrychodd y ddau ddyn ar ei gilydd fel petaent. yn disgwyl y naill wrth y llall i lefaru'r newydd drwg, a'r naill a'r llall yn methu â thorri gair.

Beth sy? Mae rhywbeth wedi digwydd. Mi wn i ar eich golwg."

"Tyd yma, 'ngenath i!" ebr ei gŵr yn dawel a lleddf ei dôn, gan estyn ei freichiau. Rhuthrodd hithau i'w freichiau gan blannu ei dwylo ar ei ysgwyddau.

"Ydi Idwal wedi'i ladd, neu beth sydd?" gofyn- nodd yn wyllt.

Yr unig ateb a gafodd oedd cael ei gwasgu i fynwes ei gŵr.

"Hywel!" oedd ei gwaedd ddolefus, â'i phen yn swp gwyn ar ei wddf.

"Blodwen!" oedd ei ateb yntau, gan ei gwasgu'n dynnach. A churai "dwy galon " yn glosiach i'w gilydd nag erioed o'r blaen.

Hallt oedd dagrau'r cyd-wylo. A thrwm oedd peltiadau y gawod o law taranau ar wydr y ffenestr. Yr oedd Joseff Ifans yn rhy brysur efo'i hances of gwmpas ei lygaid, fel na welodd yntau mo Teigar yn mynd trwy'i gampau wedi dod o'i guddfan.

Lluchiai'r aderyn marw fel pêl ar hyd y llawr, a llamai arno gan goegio mai un byw ydoedd. Taflai ef i fyny ar dro a neidiai arno drachefn.

Yn wir, methai Teigar â gwybod pa ben i'w roi'n isaf gan mor falch oedd o'i brae.