Tudalen:David Williams y Piwritan.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ers tair blynedd, ac yn wir fe fu i symudiad y Dr. John Hughes i'r wlad, rhyw ddwy flynedd cyn marw'r Dr. Thomas, beri i Ddavid Williams daflu'i lygaid dros ei ysgwydd, dro ar ol tro, yn enwedig pan gyfarfyddai â'r Dr., a hwnnw mewn hwyl yn canmol llechweddau Eryri a gwastadeddau Môn, a gorffen mewn siars, "Bendith i chi, dowch chitha i'r wlad acw i fyw."

I brofiad gweinidog Crosshall Street, bu llawer o waith datod ar y rhwymau. Clwm oedd ei ymlyniad wrth Fethodistiaid y ddinas, ac fe wyddai yn nwfn ei galon eu bod hwythau'n ymserchu ynddo yntau fel dyn a phregethwr. Daeth i gredu fwyfwy fod angen rhywun ieuengach i weithio gyda'r plant, ac felly, fel mater o ddyletswydd y torrwyd y rhaffau y buwyd am ddeunaw mlynedd yn eu ffurfio. Ym Mai, 1894, cafwyd cyfarfod i ganu'n iach i'r unig bregethwr o'i fath a oedd yn Lerpwl, a rhoddwyd teyrnged ddibrin iddo gan y Parchn. Griffith Ellis, M.A.; E. J. Evans; D. Powell; T. Gray; Owen Owens; J. Hughes, M.A.; Dr. Hugh Jones; E. O. Davies, B.Sc.; a'r Mri. David Hughes; R. W. Jones, Garston; William Jones, Bootle; ac eraill. Derbyniodd yn rhodd gan yr eglwys Gwpwrdd Derw a phlât arno, a chan eglwysi eraill y cylch, bwrs o aur.