TEULU DUW.—" Hyd oni ymgyfarfyddom oll." Cymanfa ogoneddus fydd hon—y teulu i gyd yn iach a'r plant yn siriol. Y mae teulu Duw yn wahanol i deuluoedd y byd yma yn hyn. Dechrau gyda'i gilydd y mae teuluoedd y ddaear yma, ac yn gwasgaru yn fuan. . . ond am deulu Duw, dechrau yn wasgaredig y mae nhw, a dod at ei gilydd yn y diwedd.
TREFNU CYHOEDDIADAU.—"Gyr am Simon," meddai'r angel a ddaeth at Cornelius y Canwriad pan oedd eisiau pregethu Crist i hwnnw ac i'w geraint a'i gyfeillion. Nid yw'r angel yn pregethu ei hun. "Ond," meddai, "anfon wyr i Joppa, a gyr am Simon." Fel yna y mae'r angylion, yn ol y Llyfr hwn, yn rhyw drefnu cyhoeddiadau i bregethwyr.
TRUGAREDD BEUNYDD.—"Trugarha wrthyf Arglwydd, canys arnat y llefaf beunydd." Y mae'r Salmydd yn gofyn yn rhyfedd iawn yn tydi o? Gofyn am drugaredd am ei fod yn gofyn beunydd." Pan ddaw dyn atoch chi i ofyn am gardod y mae o'n deud, "Fuo mi ddim ar ych gofyn chi o'r blaen, a ddoi byth eto." "Ond," meddai'r Salmydd yma "am fy mod yn llefain beunydd—llefain heb stop —bûm ar dy ofyn ddoe, ac mi ddof eto yfory."
GOSTYNGEIDDRWYDD.—Wyddoch chi beth, gyfeillion annwyl, pe byddem yn llawer mwy gostyngedig, ni fyddai fawr o ofyn ar ein gostyngeiddrwydd gan y byddai pawb yn ffeind wrthym. Y neb y mae'i ostyngeiddrwydd yn brin, y mae gofyn mawr ar yr ychydig stoc sy' gan hwnnw—pobl yn ei gornio ac yn gas wrtho. Y mae dynion, hyd yn oed, yn gwrthwynebu'r beilchion. Yn wir, y mae'r beilchion eu hunain yn gwrthwynebu'r beilchion.