Tudalen:Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Abergele, Pensarn etc.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac yno y bu am flynyddau ac yn dra llewyrchus. Yn 1854 adeiladwyd capel Tabor ger llaw, a symudwyd yr ysgol yno. Wedi adeiladu capel yn y dref sefydlwyd yma hefyd ysgol yn ddioed; ond ymddengys mai gwedd dra syml oedd arni y Sabbothau a'r misoedd cyntaf. Yr oedd yr hen oedd yn dyfod iddi bron oll mor anwybodus a'r ieuainc, ac am hyny eisteddai y cwbl gyda'u gilydd yn un dosbarth. Tua chanol y ganrif o'r blaen cychwynodd caredigion crefydd yn y dref ysgol yn y Pant—ty anedd sydd yn awr yn adfeilion, ar ochr aswy y ffordd sydd yn arwain gyda chefn parc Castell Gwrych i Pant idda, &c. Rhoddwyd hon i fyny yr adeg yr adeiladwyd capel Llanddulas, yn 1844. Arolygwyd yr ysgol hon am dros ugain mlynedd gan Mr. Henry J. Roberts, Manchester House. Bu ysgol, hefyd, dan nawdd brodyr o'r dref, yn cael ei chynal am flynyddau mewn ty anedd yn Mhensarn, nes iddi gael cartref amgenach yn y capel—Cymraeg yn awr a adeiladesid i'r achos Saesnig yn 1858. Gwr ieuanc o Lysfaen, o'r enw Elias Evans, saer wrth ei alwedigaeth, ac a fu farw yn Ngholwyn Bay, oedd y gofalwr cyntaf am yr ysgol hon; ac ar ol hyny bu dan ofal y Mri. Edward Roberts, crydd; Jonah Lloyd. John Jones, saddler, Abergele; ac Owen Jones, Pensarn. Mewn llyfr sydd yn awr ar gael yn llawysgrif Mr. Thomas Lloyd, Ty mawr uchaf—cyfaill mynwesol y Parch. Henry Rees (gwêl Cofiant, t.d. 79, &c.)—cawn fanylion cyfrifon ysgolion y dosbarth hwn am y blynyddau 1819, 1820, ac 1821, ynghyd â chrynodeb o'r sylwadau a wneid yn nghyfarfod y cynrychiolwyr; a dyddorol ydyw gweled cofnodion un o'r cyfarfodydd hyny yn llawysgrif Henry Rees, yr hwn oedd ar y pryd yn wr ieuanc yn yr ysgol ddyddiol yn y dref gyda'r Parch. Thomas Lloyd. Dengys y cofnodion hyn fod yr Ysgol Sabbothol yn y dref a'r amgylchoedd yn y cyfnod hwnw yn dra llewyrchus.

Yr un a wnaeth fwyaf ynglyn a'r Ysgolion Sabbothol yn